Skip to content

Digartrefedd, Ionawr i Mawrth 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diwygiedig diweddaraf ar ddigartrefedd, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 22 Mehefin 2011, yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar ddigartrefedd yn cynnwys data ar gyfer Cymru yn y chwarter o Ionawr i Mawrth 2011.

Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 23 Mawrth 2011.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

  • Yn gyffredinol, mae nifer y cartrefi sy’n cael eu derbyn fel rhai digartref wedi gostwng ers Gorffennaf 2006, er hynny, mae’r ffigurau wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod y chwarter Ionawr i Mawrth 2011, roedd 1,655 o gartrefi yn cael eu derbyn fel rhai digartref, sydd yn gynnydd o 13 y cant ar yr un chwarter yn 2010.
  • Yn gyffredinol, mae'r defnydd o lety dros dro wedi bod yn gostwng ers canol 2005, er hynny, mae’r niferoedd wedi cynyddu ychydig ers mis Rhagfyr 2009. Ar ddiwedd mis Mawrth 2011, roedd 2,640 o gartrefi mewn llety dros dro, sy'n gynnydd o 6 y cant o'i gymharu â mis Mawrth 2010.
  • Mae'r defnydd o lety gwely a brecwast wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers diwedd 2004, fodd bynnag mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y duedd hon yn arafu ychydig. Erbyn diwedd mis Mawrth 2011, roedd 240 o gartrefi mewn llety gwely a brecwast, cynnydd o 3 y cant o’r nifer a adroddwyd ddiwedd Mawrth 2010.
  • Mae’r nifer a’r ganran o deuluoedd â phlant mewn llety gwely a brecwast yr un peth wedi aros yr un peth o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ar ddiwedd Mawrth 2011, roedd 10(r) teulu, yn cyfrif am 5 y cant(r) o’r holl gartrefi mewn llety gwely a brecwast sy’n debyg i’r hyn a welwyd ar ddiwedd Mawrth 2010.

(r) Diwygiwyd 30 Mehefin 2011.

Nodyn diwygio

Cyhoeddwyd datganiad ystadegol diwygiedig ddydd Iau 30 Mehefin yn dilyn derbyn gwybodaeth wedi ei chywiro gan awdurdod lleol am y nifer o deuluoedd â phlant mewn llety gwely a brecwast.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')