Skip to content

Gweithgarwch Adnewyddu'r Sector Preifat, 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar weithgarwch Adnewyddu'r Sector Preifat 2010-11 gan Lywodraeth Cymru ar 7 Medi 2010 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae ystadegau ar Weithgarwch Adnewyddu'r Sector Preifat yng Nghymru'n cynnwys data ar gyfer y flwyddyn 2010-11.  Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ar 16 Medi  2010.

Dyma bwyntiau allweddol datganiad 2010-11:

  • Bu gostyngiad bach yng nghyfanswm gwariant ar adnewyddu’r sector breifat yn 2010-11 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.  Mae hyn yn parhau’r duedd o ostyngiad yng ngwariant ar adnewyddu’r sector breifat ers ei uchaf yn 2006-07.
  • Gwariwyd bron i £58 miliwn ar adnewyddu’r sector breifat yn ystod 2010-11. O’r swm hwn, daeth 96 y cant (£56 miliwn) yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol trwy grantiau a benthyciadau, sy’n debyg i’r gyfran a ddarparwyd yn 2009-10.
  • Yn 2010-11, roedd gwariant ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFGs) bron yn £35 miliwn. Roedd hyn yn gynnydd o’i gymharu â 2009-10, pan oedd y ffigur yn £33 miliwn.
  • Roedd 36 ardal adnewyddu yn gweithredu yn ystod 2010-11, yn cynnwys 49,400 o anheddau. Gyda'i gilydd gwariwyd tua £41 miliwn ar yr ardaloedd hyn yn ystod 2010-11, gostyngiad o 6 y cant o'r ffigur £45 miliwn yn 2009-10.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')