Skip to content

Mynegai Prisiau Tai, Awst 2011

Cyhoeddwyd y Mynegai Prisiau Tai diweddaraf, a gynhyrchir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ar 11 Hydref 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Gyfartaledd Prisiau Tai a Chwyddiant Blynyddol Prisiau Tai yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Swyddfeydd y Llywodraeth am y cyfnod Awst 2011.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 13 Medi 2011.

Cyfrifir y Mynegai Prisiau Tai (HPI) gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol fel cyfres fisol o newidiadau mewn prisiau tai ers mis Chwefror 2002 ar draws rhanbarthau gwahanol y DU (gan gynnwys Cymru).  Nid yw'r data yn cael ei addasu'n dymhorol o’r herwydd, dylid ymdrin â chymariaethau fesul mis yn ofalus..

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Awst 2011, gwelwyd gostyngiad o 0.3 y cant yn y HPI yng Nghymru, o’i gymharu â gostyngiad blynyddol o 0.1 y cant, hyd at fis Gorffennaf 2011.
  • Ar draws y DU cyfan, gwelwyd gostyngiad o 1.3 y cant yn y HPI yn y flwyddyn hyd at fis Awst 2011, o’i gymharu â gostyngiad blynyddol o 1.5 y cant, hyd at fis Gorffennaf 2011.
  • O gymharu mis Awst 2011 â mis Gorffennaf 2011 (heb eu haddasu'n dymhorol), gwelwyd gostyngiad yng nghyfartaledd prisiau tai yng Nghymru ond gwelwyd cynnydd dros y DU cyfan.
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yng Nghymru ym mis Awst 2011 oedd £149,807, y pedwerydd ffigur isaf ymhlith rhanbarthau’r DU (uwch na’r Gogledd-Ddwyrain, Gogledd Iwerddon a’r Gogledd-Orllewin).
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yn y DU ym mis Awst 2011 oedd £208,476, a’r ffigur ar gyfer y DU, heb gynnwys Llundain a De-ddwyrain Lloegr oedd £171,640.

Nodiadau:
*Mae prisiau tai wedi'u haddasu yn ôl yr amrywiaeth o eiddo yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o eiddo a werthir yn ystod y cyfnod dan sylw ac felly nid yw prisiau amrywiol mathau penodol o eiddo mewn un cyfnod yn effeithio ar y prisiau o'u cymharu â chyfnod arall.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Mynegai Prisiau Tai, Awst 2011

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')