Skip to content

Mynegai Prisiau Tai, Rhagfyr 2011

Cyhoeddwyd y Mynegai Prisiau Tai diweddaraf, a gynhyrchir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ar 14 Chwefror 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Gyfartaledd Prisiau Tai a Chwyddiant Blynyddol Prisiau Tai yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Swyddfeydd y Llywodraeth am y cyfnod Rhagfyr 2011.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 17 Ionawr 2012.

Cyfrifir y Mynegai Prisiau Tai (HPI) gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol fel cyfres fisol o newidiadau mewn prisiau tai ers mis Chwefror 2002 ar draws rhanbarthau gwahanol y DU (gan gynnwys Cymru).  Nid yw'r data yn cael ei addasu'n dymhorol o’r herwydd, dylid ymdrin â chymariaethau fesul mis yn ofalus.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2011, gwelwyd gostyngiad o 1.6 y cant yn y HPI yng Nghymru. Roedd hyn yn gyson gyda’r gostyngiad blynyddol had at fis Hydref 2011, hefyd yn 1.6 y cant.
  • Ar draws y DU cyfan, gwelwyd cynydd o 0.1 y cant yn y HPI dros y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2011, o’i gymharu â gostyngiad blynyddol o 0.3 y cant, hyd at fis Tachwedd 2011.
  • O gymharu mis Rhagfyr 2011 â mis Tachwedd 2011 (heb eu haddasu'n dymhorol), gwelwyd gostyngiad yng nghyfartaledd prisiau tai yng Nghymru a dros y DU cyfan.
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2011 oedd £145,926, y pedwerydd ffigur isaf ymhlith rhanbarthau’r DU (uwch na’r Gogledd-Ddwyrain, Gogledd Iwerddon a Swydd Efrog a Humber).
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yn y DU ym mis Rhagfyr 2011 oedd £205,269, a’r ffigur ar gyfer y DU, heb gynnwys Llundain a De-ddwyrain Lloegr oedd £168,220.

Nodiadau

*Mae prisiau tai wedi'u haddasu yn ôl yr amrywiaeth o eiddo yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o eiddo a werthir yn ystod y cyfnod dan sylw ac felly nid yw prisiau amrywiol mathau penodol o eiddo mewn un cyfnod yn effeithio ar y prisiau o'u cymharu â chyfnod arall.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Mynegai Prisiau Tai, Rhagfyr 2011

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')