Skip to content

Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a Pherfformiad Engi Adeiladau, Hydref i Rhagfyr 2011

Ar ddydd Mercher 22 Chwefror 2011, cyhoeddodd Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) Ddatganiad Ystadegol chwarterol newydd ar y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r datganiad hwn hefyd yn cynnwys sgôr effeithlonrwydd ynni ar gyfartaledd (SAP) cartrefi newydd.

Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy

Mae’r ystadegau sydd yn ymwneud â'r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy (y Cod) yn dangos y nifer o anheddau sydd wedi eu hardystio i’r safonau a nodir yng Nghanllaw Technegol y Cod. Mae tystysgrifau Cod yn cael eu cyhoeddi mewn dau gam, y cam dylunio a’r cam ôl-adeiladu.

Mae anheddau yn cael eu dyfarnu ar sgôr seren (un seren yw’r lefel isaf ac mae chwe seren yn gartref sero carbon). Os nad yw annedd yn cyrraedd y safonau gorfodol a/neu os nad yw'n cyrraedd y sgôr isaf o un seren, bydd yn derbyn tystysgrif heb sêr. Mae'r asesiad ac ardystiad o gartrefi’r Cod yn cael ei wneud gan 1,491 o aseswyr sydd wedi'u trwyddedu gan BRE Global Ltd, Stroma Accreditation a RDL Ltd.

Rhwng Ebrill 2007 a Rhagfyr 2011:

  • Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae 77,130 o anheddau wedi derbyn sgôr tair seren yn ystod y cam dylunio a 331 o anheddau wedi derbyn lefel chwe seren (h.y. cartref sero carbon).
  • Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae 45,555 o anheddau wedi derbyn sgôr tair seren yn y cam ôl-adeiladu a 128 o dai wedi cael sgôr chwe seren (h.y. cartref sero carbon).
  • Mae cyfanswm o 78 y cant o'r tystysgrifau yn ystod y cam dylunio a 87 y cant o'r rhai yn y cam ôl-adeiladu wedi cael eu dyfarnu’n God lefel 3 ers mis Ebrill 2007 ar hyd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • O'r 98,865 o dystysgrifau a gyhoeddwyd yn y cam dylunio, cyhoeddwyd 2,336 yng Nghymru, tra  cyhoeddwyd 1,028 o’r 52,486 o dystysgrifau ôl-adeiladu yng Nghymru.

Sgôr effeithlonrwydd ynni cyfartalog (dosbarthiad SAP) cartrefi newydd

Mae SAP yn cyfeirio at  'Weithdrefn Asesu Safonol' y Llywodraeth ar gyfer asesu perfformiad ynni anheddau. Mae'r sgôr SAP yn cael ei fynegi ar raddfa o 1 i 100 - yr uchaf yw’r rhif, yr isaf yw’r costau rhedeg.

Mae'r sgôr effeithlonrwydd ynni, ar sail chwarterol, yn gyfnewidiol o ganlyniad i nifer o ffactorau gan gynnwys y cymysgedd o fathau o anheddau, y cymysgedd o systemau gwresogi a ddefnyddir mewn datblygiadau newydd a lleoliad y datblygiadau hynny lle mae nifer fach o gartrefi newydd yn cael eu hasesu mewn rhai o'r categorïau hyn.

Mae’r ffigurau yn y pennawd hwn ar gyfer Hydref i Ragfyr 2011 yn rhai dros dro ac efallai y byddant yn cael eu diwygio pan fyddant yn cael eu cyhoeddi nesaf.

Dyma’r prif bwyntiau ar gyfer Hydref i Ragfyr 2011:

  • Roedd effeithlonrwydd ynni ar gyfartaledd, sgôr SAP, cartrefi newydd yng Nghymru yn 78.5 o’i gymharu â 79.2 yn Lloegr.
  • Ar draws Cymru a Lloegr, amrywiodd effeithlonrwydd ynni cyfartalog (SAP) cartrefi newydd o 76.3 yng Ngogledd Gorllewin Lloegr i 81.3 yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
  • Yng Nghymru amrywiodd effeithlonrwydd ynni cyfartalog (SAP) yn ôl math o annedd, o 71.1 ar gyfer byngalos i 80.3 ar gyfer maisonettes.
  • Yn gyffredinol, roedd sgorau SAP ar gyfartaledd yn uwch yn Lloegr na Chymru ar gyfer tai a byngalos, ond roedd sgorau SAP ar gyfartaledd yn is na Chymru gyfer fflatiau a maisonettes.

Nodwch nad yw'r ffigurau hyn yn cael eu hystyried yn Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy, Hydref-Rhagfyr 2011.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')