Skip to content

Mynegai Prisiau Tai, Chwefror 2012

Cyhoeddwyd y Mynegai Prisiau Tai diweddaraf, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 17 Ebrill 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar Gyfartaledd Prisiau Tai a Chwyddiant Blynyddol Prisiau Tai yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Swyddfeydd y Llywodraeth am y cyfnod Chwefror 2012.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 13 Mawrth 2012.

Cyfrifir Mynegai Prisiau Tai (HPI) y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gyhoeddwyd yn flaenorol gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol,  gan ddefnyddio trafodion ariannol morgais sy’n cael eu casglu gan yr Arolwg Morgais Rheoledig gan y Cyngor Benthycwyr Morgeisi, sy’n seiliedig ar y rhan fwyaf o fenthycwyr morgais yn y DU. Y mae’n darparu gwybodaeth cynhwysfawr ar newidiadau mewn prisiau tai ar sail fisol a blynyddol ar draws y rhanbarthau gwahanol yn y DU (gan gynnwys Cymru). Nid yw'r data yn cael ei addasu'n dymhorol felly dylid ymdrin â chymariaethau fesul mis yn ofalus.

Y mae ffigurau prisiau tai ar gyfer pob mis yn 2011 ac ar gyfer Ionawr 2012 wedi cael eu diwygio o’r rheini a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae’r diwygiadau i’r ffigurau ar gyfer 2011 o ganlyniad i wall ym mhwysau’r Mynegai Prisiau Tai, tra ddiwygiwyd ffigur Ionawr 2012 o ganlyniad i’r diweddariad arfaethedig blynyddol i’r pwysau.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Chwefror 2012, gwelwyd gostyngiad o 0.5 y cant yn y HPI yng Nghymru, o’i gymharu â’r gostyngiad blynyddol i Ionawr 2012 o 0.6 y cant.
  • Ar draws y DU cyfan, gwelwyd cynydd o 0.3 y cant yn y HPI dros y flwyddyn hyd at fis Chwefror 2012, o’i gymharu â Ionawr 2012 lle gwelwyd dim cynnydd na gostyngiad dros y 12 mis.
  • O gymharu mis Chwefror 2012 â mis Ionawr 2012 (heb eu haddasu'n dymhorol), gwelwyd gostyngiad yng nghyfartaledd prisiau tai yng Nghymru ac ar draws y DU cyfan.
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yng Nghymru ym mis Chwefror 2012 oedd £151,839, y trydydd ffigur isaf ymhlith rhanbarthau’r DU (uwch na’r Gogledd-Ddwyrain a Gogledd Iwerddon yn unig).
  • Pris tŷ ar gyfartaledd* yn y DU ym mis Chwefror 2012 oedd £224,473, a’r ffigur ar gyfer y DU, heb gynnwys Llundain a De-ddwyrain Lloegr oedd £182,742.

Nodiadau

*Mae prisiau tai wedi'u haddasu yn ôl yr amrywiaeth o eiddo yn cymryd i ystyriaeth yr amrywiaeth o eiddo a werthir yn ystod y cyfnod dan sylw ac felly nid yw prisiau amrywiol mathau penodol o eiddo mewn un cyfnod yn effeithio ar y prisiau o'u cymharu â chyfnod arall.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol: Mynegai Prisiau Tai, Chwefror 2012

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

23 Mai 2012