Skip to content

Gwerthiannau Tai Cymdeithasol, 2011-12

Dolenni perthnasol

Rydym eisiau gwybod eich barn ar ein cynlluniau.
Hoffem glywed eich barn am ein cynigion am newidiadau i’r eitemau data a gasglwyd ac a gyhoeddir ar werthiannau tai cymdeithasol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diwygiedig diweddaraf ar werthiant Tai Cymdeithasol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar 12fed o Fehefin 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r datganiad ystadegol yma yn darparu gwybodaeth ar werthiant Tai Cymdeithasol yng Nghymru, a’u heffaith ar stoc annedd. Y mae’n cynnwys gwerthiant anheddau awdurdod lleol a gwerthiant anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Y mae gwybodaeth sy’n ymwneud â gwerthiant Tai Cymdeithasol yn cyfeirio at y flwyddyn ariannol 2011-2012, yn unol â chymariaethau gyda ffigurau ar gyfer cyfnodau cynharach. Y mae gwybodaeth ar stoc anheddau fel yr at Mawrth 31 2011.

Y mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar Fehefin 15 2011.

Casglwyd data gwerthiant Tai Cymdeithasol yn flaenorol ar sail chwarterol, a fe’i gyhoeddwyd ochr yn ochr â data Adeiladu Tai Newydd mewn datganiad cychwynnol cyfunol. Fe wnaeth yr ymgynghoriad ‘Newidiadau Arfaethedig i Gasgliad Data Tai’ a orffennodd ar Orffennaf 15 2011 ddod i’r casgliad y dylid ond casglu’r data gwerthiant yn flynyddol. Gweithredwyd hyn ar gyfer y flwyddyn gasglu 2011-12. Ceir crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ein gwefan.

Yn ychwanegol, gorffennodd yr ymgynghoriad ‘Newidiadau Arfaethedig i Gasgliad Data Gwerthiant Tai Cymdeithasol’ ar Fawrth 1af 2012. O achos cyfyngiadau amser, penderfynwyd na fydd y newidiadau arfaethedig yn yr ymgynghoriad yma yn cael eu gweithredu tan y casgliad data 2012-13, ac felly ni fyddant yn cael eu hadlewyrchu yn y datganiad yma. Ceir crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ein gwefan.

Ceir mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriadau yma yn yr adran Gwybodaeth Ansawdd Allweddol tuag at ddiwedd y datganiad.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn dilyn lleihad rheolaidd, cynyddodd gwerthiant tai cymdeithasol yn 2011-12 fesul chwarter dros y flwyddyn diwethaf. Fodd bynnag, amrywiodd hyn fesul teip y landlord, gyda gwerthiant awdurdod lleol i lawr 27 y cant ar y flwyddyn blaenorol, tra roedd gwerthiant anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i fyny bron 50 y cant.
  • Rhwng Ebrill 1af 2011 a Mawrth 31 2012, trosglwyddwyd cyfanswm o 470 o anheddau cymdeithasol ar rent i’r sector breifat trwy werthiant 84 anheddau awdurdod lleol a 386 anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, fesul Hawl i Brynu a chynlluniau eraill.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)