Skip to content

Anheddau’r Dreth Gyngor, 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Anheddau sy’n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor yng Nghymru, a gynhyrchir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar 12 Ionawr 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r datganiad hwn yn darparu manylion ar y nifer o anheddau sy’n gymwys i dalu’r dreth gyngor yn awdurdodau lleol Cymru am y cyfnod 2010-11.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cyfanswm nifer yr anheddau sy’n gymwys i dalu’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2010-11 yw 1,320,647, sef cynnydd o 0.6% ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r cyfanswm hwn yn cyfateb i 1,178,237 o anheddau band D. Gwynedd sy’n dangos y cynnydd mwyaf (1.5%), ac wedyn Sir Fynwy (1.3%).
  • Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o eiddo band A (44,152).  Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o anheddau ym mandiau A a B (84%), Sir Fynwy sydd â'r isaf (9%).
  • Mae tua thraean o anheddau yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, fel arfer oherwydd eu bod yn cael eu meddiannu gan un person cymwys yn unig.
  • Mae 49,255 o anheddau yng Nghymru sydd wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor, sef 4% o’r holl anheddau. Y categori mwyaf sydd wedi’i eithrio yw anheddau gwag a heb eu dodrefnu gydag 16,105; ac ar ôl hynny anheddau i fyfyrwyr (11,662), gyda 4,906 o anheddau wedi’u heithrio o ganlyniad i fod yn wag adeg marwolaeth.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3519
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')