Skip to content

Gwariant Refeniw Cyllidebol Awdurdodau Lleol, 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Wariant Refeniw Cyllidebol Awdurdodau Lleol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 10 Mehefin 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r ystadegau gan awdurdodau Cymru ar wariant refeniw cyllidebol ac ariannu yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol ar gyfer 2010-11. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 11 Mehefin 2009.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cyfanswm crynswth gwariant refeniw cyllidebol awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2010-11 yw £7.5 biliwn, sy’n gynnydd o 3.3% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Bu cynnydd o 3.6% yng ngwariant refeniw crynswth y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistref sirol, 1.5% o gynnydd yng ngwariant yr heddlu a chynnydd o 2.2% yng ngwariant y gwasanaethau tân. Gwelwyd cynnydd o 1.9% yng ngwariant awdurdodau'r parciau cenedlaethol.
  • Roedd gwasanaethau addysg yn cyfrif am 34% o'r cyfanswm gwariant refeniw cyllidebol, a’r gwasanaethau cymdeithasol yn cyfrif am 19%. Roedd y ddau wasanaeth hyn yn cyfrif am dros hanner y gwariant.
  • Bro Morgannwg yw'r sir sy'n dangos y cynnydd mwyaf yn y gwariant refeniw crynswth gyda 6.3%. Ceredigion sy’n dangos y cynnydd lleiaf, sef 0.6%.
  • Gwelwyd cynnydd o 2.5% yn 2010-11 yng ngwariant refeniw net, h.y. heb gynnwys grantiau penodol a grantiau arbennig.
  • Amcangyfrifir cyfanswm cronfeydd awdurdodau lleol ar ddechrau 2010-11 i fod oddeutu £856 miliwn.

Gwybodaeth bellach

Wefan StatsWales

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')