Skip to content

Cyfraddau Casglu'r Dreth Gyngor, 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar gyfraddau casglu'r dreth gyngor yng Nghymru: 2010-11 gan Lywodraeth Cymru ar 16 Mehefin 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar gyfraddau casglu'r dreth gyngor gan awdurdodau unedol Cymru yn cynnwys data ar y symiau a gasglwyd, a ddiddymwyd ac sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn hon a blynyddoedd blaenorol. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 10 Mehefin 2010.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

  • Casglwyd 96.6% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio Cymru yn 2010-11 – cynnydd o 0.2 pwynt canran.
  • Bu cynnydd yng nghyfraddau casglu 11 awdurdod yn 2010-11.
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yn Sir Ddinbych (98.2%) a’r gyfradd gasglu isaf yng Nghaerdydd (94.5%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2010-11, heb gynnwys budd-dal y dreth gyngor, oedd £1,056 miliwn allan o’r £1,094 miliwn oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2010-11, casglwyd £29 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan yr awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £6 miliwn eu dileu fel dyledion drwg.
  • Roedd £37 miliwn o'r symiau yr anfonwyd biliau amdanynt ar gyfer 2010-11 yn parhau'n ddyledus ar 31 Mawrth 2011.
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2011 oedd £81 miliwn.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')