Skip to content

Lefelau'r Dreth Gyngor, 2012-13

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Lefelau’r Dreth Gyngor: 2012-13, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 22 Mawrth 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
UK Statistics Authority website Mae’r ystadegau ar Lefelau’r Dreth Gyngor yn cynnwys data ar gyfer Gymru am y cyfnod 2012-13.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Y dreth gyngor band D i Gymru ar gyfer 2012-13 yw £1,188 ar gyfartaledd.  Mae hyn yn cynnwys £972 ar gyfer cynghorau sir, £190 ar gyfer awdurdodau’r heddlu a £26 ar gyfer cynghorau cymuned. Mae’r ffigurau ar gyfer awdurdodau bilio, gan gynnwys yr elfennau ar gyfer awdurdodau’r heddlu, yn amrywio o £945 yn Sir Benfro i £1,463 ym Mlaenau Gwent.
  • Mae codiadau cynghorau sir ym mand D y dreth gyngor ar gyfer 2012-13 yn £19 ar gyfartaledd, neu 1.9%. Mae codiadau awdurdodau’r heddlu yn £7 ar gyfartaledd, neu 3.9%. Mae’r codiadau hyn yn cyfuno i greu codiad band D o £26 ar gyfartaledd, neu 2.2%. Dyma’r cynnydd canrannol lleiaf ers i’r dreth gyngor ddechrau yn 1993-94.
  • Ynys Môn sydd â’r codiad canrannol band D uchaf (gan gynnwys elfennau cynghorau cymuned a’r heddlu) o 4.1%. Sir Fynwy sydd â’r codiad canrannol band D isaf o 0.4%, gyda gostyngiad bach yn eu helfen cyngor sir.
  • Yn Lloegr, amcangyfrifir y bydd tua 85% o awdurdodau’n rhewi’r dreth gyngor yn 2012-13 er mwyn derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Ganolog. Codiad cyfartalog awdurdodau Lloegr yw 0.3%.
  • Ar gyfartaledd, mae’r dreth gyngor band D yng Nghymru tua 82% o’r ffigur diweddaraf o £1,444 a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')