Skip to content

Gwariant Alldro Refeniw Llywodraeth Leol, 2005-06

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r ystadegau ar wariant alldro refeniw ac ariannu gan awdurdodau Cymru yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol, ar gyfer 2005-06.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Prif bwyntiau

  • Cyfanswm gwariant refeniw gros ar gyfer 2005-06, yn ôl yr hyn a gofnodwyd gan awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys awdurdodau'r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol, oedd £6.1 biliwn. Mae hyn yn gynnydd o 5.9% ers y flwyddyn flaenorol.
  • Cynyddodd grantiau penodol neu arbennig y llywodraeth ryw £93 miliwn neu 6.7% sef 24.0% o gyfanswm y gwariant gros yn 2005-06.
  • Cynyddodd gwariant refeniw net, hy ac eithrio grantiau penodol ac arbennig, 5.7% yn 2005-06.
  • Roedd darpariaeth ar gyfer gwasanaethau addysg yn gyfrifol am 34.6% o'r gwariant refeniw gros, y gwasanaethau cymdeithasol yn gyfrifol am 19.0%, yr  heddlu yn gyfrifol am 9.1% a'r gwasanaethau tân yn gyfrifol am 2.2%.
  • Yr oedd y grant cymorth refeniw yn gyfrifol am 58.9% o'r gyllideb ledled Cymru, gyda'r dreth cyngor yn gyfrifol am 21.7% ac ardrethi annomestig sydd wedi'u hailddosbarthu yn gyfrifol am 14.4%.  Grant i'r heddlu oddi wrth y Swyddfa Gartref oedd yn gyfrifol am y 5.0% yn weddill.
  • Cyfanswm gwariant refeniw gros fesul person yng Nghymru (gan gynnwys yr heddlu a'r gwasanaeth tân) oedd £2,071. Y sir lle cofnodwyd y gwariant uchaf fesul person  o £2,152 oedd Merthyr Tudful. Y sir lle cofnodwyd y gwariant isaf fesul person  o £1,596 oedd Sir Fynwy. Awdurdod heddlu Gogledd Cymru oedd â'r gwariant uchaf fesul person gan awdurdod yr heddlu sef £206 y pen.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsWales

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3963
E-bost: stats.finance@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2007 (dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)