Skip to content

Monitro Ystadegau Tân Cymru, Chwarter 2 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am staff ar ddyletswydd yn ôl galw, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 22 Ionawr 2009, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar danau yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2008. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 20 Chwefror 2009.

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 40,100 o danau a galwadau tân diangen yn ystod y flwyddyn oedd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2008, sef gostyngiad o 17 y cant o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.
  • Bu gostyngiad o 12 y cant mewn prif danau yng Nghymru o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Anafiadau

  • Cafwyd 32 o anafiadau angheuol yn sgil tanau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn oedd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2008, cynnydd o'r 18 anafiadau angheuol o’r cyfnod blaenorol.
  • Cofnodwyd 620 o anafiadau nad oeddent yn rhai angheuol yn sgil tanau, o’i gymharu â 650 yn ystod y cyfnod blaenorol.

Galwadau Tân Diangen

  • Yn ystod y flwyddyn oedd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2008, cafwyd 19,100 o alwadau tân diangen yng Nghymru, sef gostyngiad o 7 y cant o’r 20,400 yn y cyfnod blaenorol.
  • Nifer y galwadau diangen maleisus yn ystod y cyfnod oedd 1,500, sef gostyngiad o 10 y cant o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3371
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk