Skip to content

Ystadegau Tân, 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am ystadegau tân, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 16 Mehefin, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar danau yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2007. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 2 Ebrill 2008.

Caiff yr ystadegau yma eu casglu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o'r adroddiadau a gyflwynir gan holl Wasanaethau Tân ac Achub Cymru i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol am yr holl danau yr ymatebwyd iddynt.

Yn y bwletin hwn, ceir y ffigyrau ar gyfer y cyfnod 1994-2007 a'r dadansoddiad manwl blynyddol diweddaraf o'r tanau yr ymatebwyd iddynt gan Wasanaethau Tân ac Achub Cymru. Mae’r dadansoddiad yn cynnwys manylion lleoliad, achos, cymhelliad, anafiadau a galwadau tân diangen.

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i tua 44,700 o danau a galwadau tân diangen yn 2007, lleihad o 5 y cant ers 2006.
  • Cafwyd lleihad o 10 y cant dros y flwyddyn mewn prif danau yng Nghymru, o 8,700 yn 2006 i 7,800 yn 2007.

Anafiadau

  • Cafwyd 26 o anafiadau angheuol yn sgil tanau yng Nghymru yn 2007, o’i gymharu â 22 yn 2006.
  • Lleihaodd nifer yr anafiadau nad oeddent yn rhai angheuol 2 y cant i 648 yn 2007 o 664 yn 2006.

Galwadau Tân Diangen

  • Yn 2007 cafwyd 19,600 o alwadau tân diangen yng Nghymru, lleihad o’r 19,800 yn 2006.
  • At ei gilydd mae nifer y galwadau ffug maleisus wedi lleihau 8 y cant ers 2006 i 1,530 yn 2007.

Larymau Mwg

  • Yn 36 y cant o'r 2,400 o danau mewn cartrefi yng Nghymru, doedd dim larwm mwg wedi ei fewnosod.

Achosion o Danau

  • Yn 2007 achoswyd y rhan fwyaf o danau damweiniol gan gyflenwadau tanwydd diffygiol neu gamddefnydd o gyfarpar neu offer.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3371
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk