Skip to content

Tanau Llosgi Bwriadol, 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar danau llosgi bwriadol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 11 Awst 2009, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar danau llosgi bwriadol yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod 2000 i 2007. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 29 Hydref 2008.

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i dros 3,600 o brif danau bwriadol yn 2007, lleihad o 51 y cant o gymharu â’r uchaf yn y cyfnod yn 2001.
  • Rhwng 2000 a 2007, roedd 65 y cant o danau bwriadol yn Ne Cymru, 23 y cant yng Nghanol a Gorllewin Cymru a 12 y cant yng Ngogledd Cymru.
  • Rhwng 2000 a 2007 digwyddodd tua 1 ym mhob 7 tân bwriadol ym mis Ebrill.

Cerbydau

  • Yn 2007, roedd 2,300 o brif danau a gychwynnwyd yn fwriadol mewn ceir, lleihad o 56 y cant o’r brig yn 2003.

Tanau mewn ysgolion

  • Yn 2007, roedd 29 o danau bwriadol mewn ysgolion, digwyddodd pob un ohonynt y tu allan i oriau ysgol.

Tarddiad a Defnydd Peryglus

  • Dodrefn ac eitemau dodrefnu oedd y defnydd a daniodd gyntaf mewn 43 y cant o’r prif danau bwriadol rhwng 2000 a 2007.
  • O’r sylweddau peryglus mewn prif danau bwriadol rhwng 2000 a 2007, roedd 33 y cant yn betrol a 26 y cant yn blastig anhyblyg (heb gynnwys sbwng).

Marwolaethau neu Anafiadau

  • Rhwng 2000 a 2007, bu 38 o anafiadau angheuol a 1,009 o anafiadau heb fod yn rhai angheuol o ganlyniad i danau bwriadol.

Atal

  • Rhwng 2000 a 2007, mewn 350 o achosion roedd chwistrellwyr yno cyn i’r Gwasanaeth Tân ac Achub gyrraedd.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3371
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk