Skip to content

Tân yn y cartref, 2008: Canlyniadau o’r arolygon Byw yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Y brif ffynhonnell o wybodaeth am gartrefi a chyflwr cartrefi yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am dân yn y cartref, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 15 Medi, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar dân a diogelwch tân o’r arolygon Byw yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru am 2004, 2005 a 2008. Dyma fwletin newydd sy’n darparu gwybodaeth bellach am ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 30 Ebrill 2009 ac nid yw’n allbwn rheolaidd.  Mae’r bwletin yma yn gwneud fel atodiad defnyddiol i’r ystadegau swyddogol gan ei fod yn cynnwys manylion am danau na ymatebodd y Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru iddynt ac mae’n galluogi adnabod y cartrefi sydd o’r risg fwyaf o brofi tân.

Prif bwyntiau

  • Yn 2008, cofnodwyd 1.2 y cant o aelwydydd, neu tua 15,000 o aelwydydd, eu bod wedi profi tân yn y cartref. Mae hyn wedi aros yn gyson o’i gymharu ag arolygon yn y gorffennol.
  • Roedd 10 y cant o holl aelwydydd heb larwm mwg a oedd yn llwyr weithio yn 2008. Mae’r canran wedi lleihau yn arwyddocaol o 12 y cant yn 2005 a 14 y cant yn 2004.
  • Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfradd uwch o aelwydydd wedi gosod mwy o larymau mwg o fewn yr eiddo. Roedd 61 y cant o aelwydydd yn meddu ar o leiaf dau larwm mwg llwyr weithio yn 2008, o’i gymharu â 54 y cant yn 2004.
  • Roedd 28 y cant o’r holl larymau mwg yn rhai prif bŵer yn 2008, cynnydd arwyddocaol o 2 y cant ers 2004.
  • Cofnodwyd bod dros 9 allan o bob 10 o larymau mwg llwyr weithio wedi cael eu profi yn y 12 mis diwethaf ym mhob blwyddyn a gasglwyd y data.
  • Cafodd y Gwasanaethau Tân ac Achub eu galw i 64 y cant o danau domestig yn 2008, o’i gymharu â 54 y cant yn 2004.
  • Ffactorau risg uwch ar gyfer tanau ydi byw mewn llety cymdeithasol neu ar rent a bod plant dibynnol neu oedolion ifanc yn yr aelwyd.

Cyswllt

Ffôn: 029 2080 1257
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk