Skip to content

Adroddiad ar y Cyd gan Adrannau'r Llywodraeth ynglyn â Ffigyrau'r Boblogaeth ac Ymfudiad

Heddiw, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi ystod o ddata demograffig ar yr un pryd.
Mae'r weithred hon yn cynrychioli'r cam cyntaf tuag at raglen newydd o 'adroddiadau ar y cyd' ar gyfer ystadegau demograffeg - un o brif argymhellion y Tasglu Rhyng-adrannol ar Ystadegau Ymfudo yn 2006.Y nod yw sicrhau fod data demograffig perthynol o adrannau gwahanol yn cael eu cyflwyno mewn modd cydlynnol ar nifer cyfyngedig o ddyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Mae'r wybodaeth a'r data a gyhoeddwyd gan Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar wella'r cydlyniad mewn darparu gwybodaeth ar ystadegau'r boblogaeth ac ymfudo. Bydd hyn yn dylanwadu ar sut bydd yr ystadegau yma'n cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.
  • Adroddiad ar y cynnydd a wnaed tuag at argymhellion y Tasglu Rhyng-adrannol ar Ystadegau Ymfudo yn 2006.
  • Astudiaethau Poblogaeth Awdurdod Lleol 2007: Adroddiad terfynnol yn crynhoi argymhellion y pedwar adroddiad unigol a gyhoeddwyd yn flaeonorol.
  • Diweddariad i amcangyfrifon poblogaeth wardiau, ac, am y tro cyntaf, amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac etholaethau seneddol (ystadegau arbrofol)
  • Amcangyfrifon Poblogaeth Chwarterol ar gyfer Rhagfyr 2007  (ystadegau arbrofol)
  • Symudiadau ymfudo rhwng Cymru a gweddill y DU ar gyfer y flwyddyn yn gorffen ym Mehefin 2007.

Mae'r wybodaeth a'r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw yn cynnwys:

  • Ystadegau ceiswyr lloches ar gyfer pedwerydd chwarter 2007
  • Adroddiad monitro y Gwledydd Newydd hyd ddiwedd 2007
  • Ystadegau'r Gwledydd Newydd (yn ymwneud â Bwlgaria a Rwmania)
    (dim ond ffigyrau ar gyfer ceiswyr lloches sydd wedi eu cyhoeddi ar lefel Cymru)

Prif Ganlyniadau

  • Symudodd tua 56,500 o bobl i Gymru o weddill y DU yn ystod y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2007. Symudodd tua 49,250 o Gymru i rannau eraill o'r DU. Mae hyn yn rhoi ymfudiad net i Gymru oddeutu 7,300 ar gyfer y cyfnod canol-2006 hyd ganol-2007 (o'i gymharu â 6,600 yn y 12 mis blaenorol)
  • Yn nghanol 2005, y Parc Cenedlaethol yng Nghyrmu gyda'r boblogaeth uchaf oedd Bannau Brycheiniog (tua 32,900). Roedd Poblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri dros 25,700, a phoblogaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro bron 22,400.

Cyswllt

Ffôn: 029 2080 1341
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

I'w gadarnhau ar dudalen I'w Gyhoeddi Cyn Hir