Skip to content

Partneriaethau Sifil, 2008

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am bartneriaethau sifil, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), ar 4 Awst 2009, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r ystadegau am bartneriaethau sifil yn cynnwys data ar gyfer y Deyrnas Unedig  am y cyfnod hyd ddiwedd 2008.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cofrestrodd 282 o gyplau o’r un rhyw mewn partneriaeth sifil (137 o bartneriaethau gwryw a 145 o bartneriaethau benyw) yng Nghymru yn 2008, sef gostyngiad o 294 o bartneriaethau sifil a gofrestrwyd yn 2007.
  • 1203 yw cyfanswm y partneriaethau a gofrestrwyd yng Nghymru ers i’r Ddeddf ddod i rym ym mis Rhagfyr 2005. Gwelwyd y nifer fwyaf o bartneriaethau a gofrestrwyd ers 2005 yng Nghaerdydd, sef cyfanswm o 256 o bartneriaethau sifil (21.3 y cant o’r holl bartneriaethau sifil a gofrestrwyd yng Nghymru ers i’r Ddeddf ddod i rym).
  • Fe gofrestrodd mwy o fenywod na dynion mewn partneriaethau sifil yng Nghymru yn 2008 (51.4 y cant o’r holl bartneriaethau). Mae hyn yn wahanol i’r DU lle y gwelwyd mwy o ddynion na menywod yn ffurfio partneriaethau sifil.
  • Roedd y dynion a oedd mewn partneriaeth sifil yn hŷn ar gyfartaledd na’r menywod yn 2008 (yr oedran cyfartalog i ddynion oedd 41.8, a 39.5 i fenywod). Fodd bynnag, gostyngodd yr oedran cyfartalog adeg cofrestru ar gyfer y ddau ryw, o 43.9 yn 2007 i 41.8 yn 2008 ar gyfer dynion, ac o 40.9 yn 2007 i 39.5 yn 2008 ar gyfer menywod.
  • Bu 10 y cant o’r dynion a 22 y cant o’r menywod a gofrestrwyd mewn partneriaeth sifil yng Nghymru yn 2008 eisoes yn briod neu eisoes mewn partneriaeth sifil arall.
  • Bu 12 diddymiad o bartneriaethau sifil yng Nghymru yn 2008. O’r rhain, roedd 58.3 y cant o bartneriaid o dan 35.

Nodyn

Daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym ar 5 Rhagfyr 2005 yn y Deyrnas Unedig – hwn oedd y diwrnod cyntaf i gyplau allu hysbysu eu bwriad i gofrestru mewn partneriaeth sifil. Mae’r Ddeddf yn rhoi cydnabyddiaeth cyfreithiol i berthynas cyplau o’r un rhyw sy’n 16 mlwydd oed neu’n hŷn. Y diwrnod cyntaf i gyplau allu cofrestru mewn partneriaeth sifil oedd 19 Rhagfyr 2005 yng Ngogledd Iwerddon, 20 Rhagfyr 2005 yn yr Alban a 21 Rhagfyr 2005 yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth bellach

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y SYG.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5335
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk