Skip to content

Amcanestyniadau sail-2006 ar gyfer Parciau Cenedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae’r amcanestyniadau hyn wedi eu cyfrifo drwy ddosrannu amcanestyniadau 2006 ar gyfer awdurdodau unedol (a gyhoeddwyd ym Mehefin 2008).
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Amcanestyniadau Poblogaeth ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (sail-2006), a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 29 Mawrth 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Seiliwyd yr amcanestyniadau yma ar fethodoleg tebyg a ddefnyddiwyd i greu’r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (sail-2006).

Dyma’r prif bwyntiau:

  • Rhagamcanir y bydd amcanestyniadau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Eryri yn lleihau rhwng 2006 a 2031, tra bydd poblogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn aros yn eithaf cyson.
  • Rhagamcanir y bydd poblogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynyddu i ddechrau ac yn cyrraedd 33,600 yn 2019, cyn lleihau o hyn ymlaen. Fe fydd maint y boblogaeth yn 2031 yr un peth â welwyd yn 2006, sef 33,000.
  • Rhagamcanir y bydd poblogaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lleihau o 22,300 yn 2006 i 19,600 yn 2031 (sef lleihad o 12.2 y cant).
  • Rhagamcanir y bydd poblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri yn aros yn ethaf cyson rhwng 2006 a 2014. Fe fydd y boblogaeth wedyn yn lleihau o 25,700 yn 2014 i 24,600 yn 2031.
  • Mae’r lleihad a welir ym mhoblogaeth y Parciau Cenedlaethol wedi ei achosi gan boblogaeth sy’n heneiddio, sy’n arwain at fwy o farwolaethau a llai o enedigaethau. Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae hyn yn cael ei gytbwyso gan ymfudo o rhannau eraill o’r DU.
  • Rhagamcanir y bydd cynydd arwyddocaol yn y boblogaeth oed 65 a throsodd ym mhob Parc Cenedlaethol.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 1595
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')