Skip to content

Amcangyfrifon Poblogaeth yn ôl Grwp Ethnig, 2001-2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd Ystadegau Gwladol ar Amcangyfrifon Poblogaeth yn ôl Grwp Ethnig, 2001-09, a gynhyrchir gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 18 Mai 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Mae’r bwletin diweddaraf yn rhoi ystadegau diwygiedig ar gyfer blynyddoedd 2002-2007 (pery’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar gyfer 2001 yn ddigyfnewid).  Cyhoeddwyd hwnnw am y tro cyntaf ar 15 Ionawr 2010 ac mae’n cynnwys am y tro cyntaf flynyddoedd 2008 a 2009.

Prif ganlyniadau:

Mae’r amcangyfrifon wedi eu seilio ar y 30ain o Fehefin yn y flwyddyn a nodir.

  • Rhwng 2001 a 2009, cynyddodd canran y bobl yng Nghymru sydd o grwpiau ethnig lleiafrifol o 2.1 y cant i 4.1 y cant.
  • Y grŵp ethnig lleiafrifol mwyaf yng Nghymru yw’r grŵp Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig. Yn 2009, roedd 1.8 y cant o boblogaeth Cymru yn perthyn i’r  grŵp hwn.
  • Ar lefel awdurdod lleol yn 2009, roedd canran mwyaf y bobl sydd o grwpiau ethnic lleiafrifol yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg ac Abertawe.

Nodyn Pwysig am Ddibynadwyedd Amcangyfrifon ar gyfer Ardaloedd Is-Genedlaethol

Mae'r amcangyfrifon yma yn ystadegau 'arbrofol' a dylid eu defnyddio felly â gofal addas ac ymwybyddiaeth o'u cyfyngiadau. Cynghorir defnyddwyr i fod yn ofalus pan yn dehongli'r amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd is-genedlaethol, yn benodol ar gyfer ardaloedd lle mae llifau ymfudo mewnol uchel.

Gwefan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Amcangyfrifon Poblogaeth yn ôl Grwp Ethnig

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')