Skip to content

Cyhoeddiad ar y cyd o Wybodaeth am y Boblogaeth ac Ymfudiad, Tachwedd 2011

Heddiw, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Swyddfa Gartref, Adran Gwaith a Phensiynau a Chofnodion Cenedlaethol yr Alban wedi cyhoeddi ystod o ddata demograffig ar yr un pryd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ffurfio rhan o gyfres o gyhoeddi datganiadau data’r boblogaeth ac ymfudo ar y cyd – ac mae hyn yn rhan o raglen ‘Cyhoeddi ar y Cyd’ ar gyfer data demograffeg.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Prif Ganlyniadau

Ymfudiad o Dramor (gweler y nodiadau):

  • Daeth tua 15,000 o bobl o dramor i Gymru am 12 mis neu fwy yn 2010, o’i gymharu â 14,000 o bobl yn 2009 a 16,000 yn 2008.
  • Gadawodd tua 11,000 o bobl Gymru am 12 mis neu fwy yn 2010, is na’r amcangyfrifon o 13,000 yn 2009 ac 16,000 yn 2008 ond yn uwch na’r amcangyfrifon ar gyfer 2006 a 2007, sef 10,000 a 7,000 yn y drefn honno.
  • Cafwyd mewnlif net o tua 4,000 o ymfudwyr rhyngwladol i Gymru yn 2010, yn uwch na’r mewnlif net ar gyfer 2009 a 2008 (mewnlif net o tua 1,000 y flwyddyn) ond yn is na’r amcangyfrifon net ar gyfer 2006 a 2007 (mewnlif net o tua 6,000 a 8,000 yn y drefn honno).

Ymfudiad Mewnol i’r DU:

  • Symudodd tua 50,300 o bobl i Gymru o weddill y DU yn ystod y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2010. Symudodd tua 47,900 o Gymru i rannau eraill o’r DU. Mae hyn yn rhoi ymfudiad net i Gymru oddeutu 2,400 ar gyfer y cyfnod Mawrth 2009 hyd Fawrth 2010. Mae hyn yn uwch na’r ffigur ymfudiad net o 1,600 ar gyfer y 12 mis blaenorol, a’r ffigur ymfudiad net o 2,300 ar gyfer y 12 mis yn gorffen Rhagfyr 2010.

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd ar y cyd heddiw yn cynnwys:

  • Adroddiad Chwarterol ar Ystadegau Ymfudo, Tachwedd 2010. Mae hwn yn crynhoi’r holl setiau data chwarterol ac yn darparu negeseuon allweddol o’r data diweddaraf.

Mae gwybodaeth a data pellach a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys:

  • Symudiadau ymfudo mewnol rhwng Cymru a gweddill y DU ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2011.
  • Ymfudo rhyngwladol tymor hir (LTIM) rhwng Cymru a thramor, 2010.
  • Canlyniadau dros dro ar gyfer ymfudo rhyngwladol tymor hir ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2011 (DU yn unig).
  • Canlyniadau dros dro ar gyfer ymfudo rhyngwladol tymor hir o’r Arolwg o Deithwyr Rhyngwladol (IPS) ar gyfer y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2011 (DU yn unig).
  • Poblogaeth yn ôl gwlad geni a chenedligrwydd o Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Ebrill 2010 hyd at Fawrth 2011 (hyd at lefel awdurdod lleol).
  • Gwella Ystadegau am y boblogaeth ac ymfudo: Adroddiad Chwarterol.

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Gartref yn cynnwys:

  • Rheoli mewnfudiad, crynodeb ystadegau chwarterol, y DU – chwarter 3, 2011.

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd gan yr Adran Waith a Phensiynau heddiw yn cynnwys:

  • Dyraniad rhifau Yswiriant Gwladol i Oedolion o dramor sy’n cyrraedd y DU hyd at fis Mehefin 2011.

Nodiadau
1. Ymfudo Rhyngwladol Tymor Hir (LTIM) yw’r unig amcangyfrif o ymfudiad tymor-hir sifiliad sy’n cynnwys mewnlif ac all-lif o’r DU.
2. Diffinnir ymfudwr rhyngwladol tymor-hir fel person sy’n newid y wlad lle mae’n arfer byw, am gyfnod o 12 mis o leiaf (diffiniad y Cenhedloedd Unedig). Nid yw’r ffigurau yma’n cynnwys amcangyfrifon o ymfudwyr tymor-byr (y rheini sy’n symud am lai na 12 mis).
3. Mae’r amcangyfrifon Ymfudo Rhyngwladol Tymor Hir (LTIM) wedi eu seilio yn bennaf ar yr Arolwg o Deithwyr Rhyngwladol (IPS).  Mae’r maint sampl yn fach iawn yng Nghymru, ac felly mae’r amcangyfrifon (yn benodol ymfudiad rhyngwladol allanol) yn gyfnewidiol iawn. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella ystadegau poblogaeth ac ymfudiad.  
4. Gall talgrynnu effeithio cyfanswm y ffigurau.
5. Mae’r SYG yn gweithio ar y cyd gyda sefydliadau erial ar raglen tymor hir i wella ystadegau poblogaeth ac ymfudo. O ganlyniad, cafodd ffigurau ymfudo rhyngwladol 2002-2008 eu diwygio ym mis Mai 2010.

Gwybodaeth bellach

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')