Skip to content

Cyhoeddiad ar y Cyd o Wybodaeth am y Boblogaeth ac Ymfudiad, Chwefror 2012

Heddiw, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Swyddfa Gartref, yr Adran Waith a Phensiynau a Chofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) wedi cyhoeddi ystod o ddata demograffig ar yr un pryd. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ffurfio rhan o gyfres o gyhoeddi ar y cyd – ac mae hyn yn rhan o raglen ‘Cyhoeddi ar y Cyd’ ar gyfer data demograffeg.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Ymfudiad Mewnol(1):

  • Symudodd tua 50,800 o bobl i Gymru o weddill y DU yn ystod y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2011. Symudodd tua 47,800 o Gymru i rannau eraill o’r DU yn yr un cyfnod. Mae hyn yn rhoi ymfudiad net i Gymru oddeutu 3,000 ar gyfer y cyfnod Mehefin 2010 hyd Mehefin 2011.
  • Mae’r ffigwr mudo net o 3,000 yn uwch na’r ffigurau ymfudo net o 1,900 ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben Mehefin 2010, a 560 ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben Mehefin 2009.

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd ar y cyd heddiw yn cynnwys:

  • Adroddiad Chwarterol ar Ystadegau Ymfudo, Chwefror 2012. Mae hwn yn adroddiad sy’n crynhoi’r holl setiau data chwarterol ac yn darparu prif ganlyniadau o’r data diweddaraf.

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw yn cynnwys:

  • Amcangyfrifon ymfudo tymor byr ar gyfer Cymru a Lloegr, canol-2010
  • Dosbarthu Ymfudwyr Tymor Byr i Awdurdodau Lleol – canol-2008 i ganol-2010 (mewnlif yn unig)
  • Canlyniadau dros dro ar gyfer ymfudo rhyngwladol tymor hir, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Mehefin 2011
  • Poblogaeth yn ôl gwlad geni a chenedligrwydd, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Mehefin 2011
  • Symudiadau ymfudo mewnol rhwng rhanbarthau (NHSCR), ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Mehefin 2011
  • Dangosyddion ymfudo ar lefel awdurdodau lleol

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw yn cynnwys:

  • Ystadegau Mewnfudo - Hydref-Rhagfyr 2011

Mae’r wybodaeth a’r data a gyhoeddwyd gan yr Adran Waith a Phensiynau heddiw yn cynnwys:

  • Dyraniad rhifau Yswiriant Gwladol i Oedolion o dramor hyd at fis medi 2011.

(1) Mae data Ymfudo Mewnol (NHSCR) wedi ei seilio ar symudiadau cleifion meddygon y GIG rhwng cyn Ardaloedd Awdurdodau Iechyd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hwn yn ffynhonnell ddata wahanol i System Data Cofrestru Cleifion (PRDS), sef yr un yr ydym ni'n defnyddio'n gyffredinol i ddadansoddi ymfudo mewnol. Mae data PRDS wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys yr addasiadau myfyrwyr.

Gwybodaeth bellach

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')