Skip to content

Cyfrifiad 2011: Canlyniadau Cyntaf ar yr Iaith Gymraeg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 ar yr iaith Gymraeg eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 11 Rhagfyr. Mae’r canlyniadau cyntaf yn cynnwys data ar lefel Cymru ac awdurdodau lleol.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Canlyniadau allweddol ar gyfer Cymru

  • Rhwng 2001 a 2011, roedd gostyngiad yn nifer a chyfran y bobl 3 oed a throsodd sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Roedd y gostyngiad hwn yn ganlyniad newidiadau demograffig yn y boblogaeth (gan gynnwys llai o blant, mwy o oedolion hŷn, a cholled carfannau hŷn gyda lefelau uwch o siaradwyr Cymraeg), pobl yn mudo, a newidiadau o ran sgiliau pobl rhwng y ddau Gyfrifiad.
  • Cafwyd gostyngiad yng nghyfran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg o 20.8 y cant yn 2001 i 19.0 y cant yn 2011. Er gwaethaf cynnydd ym maint y boblogaeth, roedd gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011.  Er eu bod yn is na 2001, roedd cyfran a nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2011 yn uwch na’r ffigurau cyfatebol ar gyfer 1991 (18.7 y cant a 508,000 o bobl)(1).
  • Roedd y gwahaniaethau rhwng 2001 a 2011 yn amrywio yn ôl grŵp oedran - gyda chynnydd sylweddol o ran plant iau (3-4 oed), rhywfaint o gynnydd o ran oedolion 20-44 oed, a gostyngiadau yn y grwpiau oedran eraill.
  • Roedd gostyngiad yng nghyfran y bobl 3 oed a throsodd sy’n gallu siarad Cymraeg i’w weld bron ym mhob un o’r awdurdodau lleol. Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yn yr ardaloedd lle’r oedd y cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y pwynt canran yn disgyn fwyaf – o 50.3 y cant yn 2001 i 43.9 y cant yn 2011, sy’n golygu mai llai na hanner y boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011.
  • Nid oedd sgiliau iaith Gymraeg gan bron tri chwarter y boblogaeth (73.3 y cant) yn 2011. Mae hyn yn gynnydd o 71.6 y cant yn 2001.
  • Cafwyd ychydig o gynnydd, o 4.9 y cant yn 2001 i 5.3 y cant yn 2011, yng nghyfran y bobl sy’n gallu deall Cymraeg yn cael ei siarad (ond heb allu siarad, darllen nac ysgrifennu Cymraeg).

Bydd data cysylltiedig o Gyfrifiad 2011 ar gael yn StatsCymru erbyn diwedd 2012.

Cynhaliwyd y Cyfrifiad ar 27 Mawrth 2011, ac mae’n ffynhonnell allweddol o wybodaeth am yr iaith Gymraeg. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gyfrifol am y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

Yng Nghyfrifiad 2011, gofynnwyd y cwestiwn ‘A allwch ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?’ - ac roedd modd ateb drwy dicio un neu ragor o bum blwch (un i bob categori ac un ar gyfer ‘Dim un o’r rhain’) mewn unrhyw gyfuniad. Dim ond yng Nghymru y gofynnwyd y cwestiwn hwn, a chyflwynir atebion ar gyfer pobl 3 oed a throsodd. Nid oedd y Cyfrifiad yn casglu gwybodaeth ynghylch pa mor rhugl ydynt na pha mor aml y maent yn defnyddio’r Gymraeg.

Cyhoeddir gwybodaeth fanylach am yr iaith Gymraeg (gan gynnwys tablau amryw o elfennau, gwybodaeth am iaith o fewn cartrefi ac ati) dros y 18 mis nesaf. Gallwch weld Prospectws Allbynnau’r Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol am ragor o wybodaeth.

Nodiadau

(1) Noder mai cwestiwn Cyfrifiad 1991 oedd ‘Ydych chi…?’ yn hytrach na ‘Allwch chi…?’

Gwybodaeth bellach

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Cyfrifiad 2011, Ystadegau Allweddol ar gyfer awdurdodau unedol yng Nghymru

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Mhrospectws Cyfrifiad 2011

Gwefan StatsCymru.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: dataiaithgymraeg@cymru.gsi.gov.uk  

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd