Skip to content

Staff a Chyllid Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, 2007/08

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar staff a chyllid Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd 2007/08, ar 31 Mawrth 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 19 Mawrth 2008. Mae’r bwletin hwn wedi’i seilio ar ystadegau a gynhyrchir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

Staff Sefydliadau Addysg Uwch

  • Yn 2007/08 roedd yna tua 19,315 aelod o staff yn gweithio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, 1,250 mwy nac yn 2006/07.
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi'r nifer fwyaf o staff (5,880), mwy na dwbl nifer y staff y nesaf - Prifysgol Morgannwg (2,855), Phrifysgol Abertawe (2,395, cynnydd o 56 y cant ar y flwyddyn flaenorol), Prifysgol Aberystwyth (1,955) a Prifysgol Bangor (1,805).
  • Cofnodwyd bod llai na hanner o'r staff – 8,840 - yn weithwyr academaidd proffesiynol. Mewn 80 y cant o'r swyddi academaidd cofnodwyd addysgu fel brif waith.
  • Ar gyfartaledd yr oed ar gyfer staff academaidd amser llawn oedd 44. Roedd chwarter ohonynt o dan 35 oed a 21 y cant ohonynt yn 55 oed neu drosodd.
  • Roedd Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn cyflogi 10,475 o staff nad sy’n staff academaidd, o’r rheini roedd 2,070 yn gynorthwywyr llyfrgell, yn glercod neu yn gynorthwywyr gweinyddol cyffredinol. Roedd 1,710 yn ysgrifenyddion, teipyddion, derbynyddion neu teleffonyddion, a 1,575 pellach yn weithwyr proffesiynol nad sy’n weithwyr academaidd.
  • Roedd ychydig dros hanner o'r staff yn fenywod. Serch hynny, mewn swyddi academaidd dim ond 4 ym mhob 10 oedd yn fenywod I’gymharu â 6 ym mhob 10 ar gyfer staff nad sy’n staff academaidd. Yn ogystal, roedd bron i 2 ym mhob 3 o'r staff rhan amser yn fenywod.
  • Yr oedd tua 30 y cant o staff academaidd a staff di-academaidd yn gweithio'n rhan amser.

Cyllid Sefydliadau Addysg Uwch

  • Cyfanswm incwm y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru oedd £1,090 miliwn, £91 miliwn yn fwy nag yn 2006/07.
  • Daeth 38 y cant o'r incwm oddi wrth "Grantiau'r Cyngor Cyllido" (£419 miliwn), 26 y cant o "contractau, grantiau addysg a Ffioedd Dysgu" (£287 miliwn) a roedd "Incwm Arall" (£224 miliwn) yn cyfrif am 21 y cant o incwm y Sefydliadau Addysg Uwch yr un. Mae "Incwm Arall" yn cynnwys yr incwm nad oedd wedi ei gyfrif yn y categorïau eraill, er enghraifft incwm a ddaeth am wasanaethau a gynigiwyd i gyrff allanol.
  • Cyfanswm y gwariant gan Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru oedd £1,061 miliwn, tua £85 miliwn yn fwy nag yn 2006/07.
  • Gwariwyd bron i 60 y cant o gyfanswm gwariant Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ar gostau staff (£633 miliwn).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsCymru.

Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5043
E-bost: he.stats@cymru.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')