Skip to content

Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch yn y DU 2007/08

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Gyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig, a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), ar 2 Gorffennaf 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar ymadawyr Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys data ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon am y cyfnod hyd at y flwyddyn academaidd 2007/08. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 3 Gorffennaf 2008.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

O’r graddedigion gradd gyntaf llawn amser o SAUau yng Nghymru yn 2007/08 lle gŵyr am eu cyrchfan 6 mis ar ôl graddio roedd:

  • 61 y cant mewn gwaith;
  • 8 y cant mewn cyfuniad o waith ac addysg;
  • 17 y cant mewn addysg bellach yn unig; a
  • tybiwyd bod 8 y cant yn ddi-waith.

O’r graddedigion gradd gyntaf llawn amser lle gŵyr eu cyrchfan ac oedd wedi’u nodi fel mewn gwaith yn unig, roedd 58 y cant yn gweithio yng Nghymru.

O’r graddedigion gradd gyntaf rhan-amser o SAUau yng Nghymru yn 2007/08 lle gŵyr am eu cyrchfan 6 mis ar ôl graddio roedd:

  • 71 y cant mewn gwaith;
  • 18y cant mewn cyfuniad o waith ac addysg;
  • 3 y cant mewn addysg bellach yn unig; a
  • tybiwyd bod 3 y cant yn ddi-waith.

Roedd y cyfrannau ym mhob grŵp cyrchfan am raddedigion gradd gyntaf llawn amser a rhan amser yn debyg i 2006/07 ac yn debyg i’r rheini ar raddedigion o holl SAUau  y Deyrnas Unedig yn 2007/08.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5067
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')