Skip to content

Arolwg Arhydol Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE), 2004/05

Cyhoeddwyd casgliadau allweddol “Arolwg Arhydol Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE)” gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar 3 Medi 2009.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad o ddata o’r arolwg dilynol (arhydol) cyntaf erioed gan HESA ar ymadawyr o sefydliadau addysg uwch. Arolygwyd y graddedigion yma ddiwethaf tua chwe mis ar ôl iddynt ennill eu cymwysterau (DLHE cynnar).

Mae’r dadansoddiad yn rhoi mewnwelediad i batrymau cyflogaeth graddedigion tair blynedd a hanner i fewn i’w gyrfaoedd ac mae wedi’i seilio ar 41,395(1) o raddedigion o garfan graddio 2004/05.

Canlyniadau allweddol ar gyfer y DU gyfan(2):

  • Roedd 76 y cant o raddedigion mewn cyflogaeth llawn amser (55 y cant yn y DLHE cynnar);
  • Roedd 6 y cant o raddedigion mewn cyflogaeth rhan amser (9 y cant yn y DLHE cynnar);
  • Roedd 6 y cant mewn astudiaethau pellach (14 y cant yn y DLHE cynnar);
  • Roedd 7 y cant mewn cyfuniad o waith ac astudiaethau pellach (11 y cant yn y DLHE cynnar);
  • Roedd 3 y cant yn ddi-waith (5 y cant yn y DLHE cynnar);
  • O’r rheini mewn cyflogaeth, roedd 81 y cant wedi’u cyflogi mewn swydd ‘graddedigion’ o’i gymharu ag 80 y cant yn y DLHE cynnar;

Hefyd, roedd yr Arolwg Arhydol yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud â boddhad graddedigion gyda’u dewisiadau astudio a’u gyrfa mor belled.

  • Roedd 87 y cant o raddedigion naill ai yn ‘ fodlon iawn’ neu’n ‘fodlon’ gyda’u gyrfaoedd mor belled;
  • Dynododd y mwyafrif o atebwyr, os byddent i ddewis eu cyrsiau eto, ni fyddent yn newid eu pwnc, sefydliad AU na’u lefel cymhwyster.

(1) Daeth y 41,395 ymateb hyn o ddau is-sampl gwahanol o’r 319,260 o ymatebion a gafwyd i’r arolwg cynharach yn 2004/05; Sampl A o 71,390 o bobl sy’n gadael addysg uwch yw’r cyntaf, y cafwyd ymatebion gan 26,245 ohonynt (gyda gorsamplo mewn rhai grwpiau); a Sampl B o 89,605 o bobl sy’n gadael addysg uwch â chyfeiriadau ebost ganddynt, y cafwyd ymatebion gan 15,155 arall ohonynt.

(2) Mae 2004/05 yn cyfeirio at y cohort a adawodd addysg uwch yn 2004/05, ac a atebodd gwestiynau am eu gweithgareddau ar 24 Tachwedd 2008.  Mae 2002/03 yn cyfeirio at y rheini a adawodd yn 2002/03 ac a atebodd gwestiynau am eu gweithgareddau ar 27 Tachwedd 2006.

Cyhoeddir yr adroddiad llawn ar wefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5043
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd