Skip to content

Ceisiadau am Gyllid Myfyrwyr, Benthyciadau Ffioedd Dysgu a Grantiau Ffioedd Dysgu a Ddyfarnwyd yng Nghymru - Diweddariad ar Ddiwedd Mis Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar geisiadau cyllid myfyrwyr, benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd dysgu a ddyfarnwyd, a gynhyrchir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC), ar 14 Ionawr 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar geisiadau cyllid myfyrwyr, benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd dysgu a ddyfarnwyd yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2009. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 10 Rhagfyr 2009.

Yn 2006/07 cyflwynwyd benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu.  Golyga hyn y gellir gohirio taliad ffi dysgu hyd nes bod myfyrwyr wedi gadael addysg uwch ac yn ennill dros £15,000. Roedd myfyrwyr system newydd sy’n hanu o Gymru neu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru (h.y. y rhai a gychwynnodd o dan y trefniadau cymorth newydd a gyflwynwyd ym mis Medi 2006) yn gymwys am ffioedd dysgu o £1,200. Roedd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac yn astudio yn Lloegr yn gymwys am ffioedd dysgu amrywiol o hyd at £3,000. Yn 2007/08 cyflwynwyd ffioedd i fyny at £3,070 (£3,225 yn 2009/10) yng Nghymru yn effeithio myfyrwyr system newydd a gychwynnodd eu cyrsiau o 2006/07 ymlaen. Bydd myfyrwyr system newydd sy’n hanu o Gymru ac sy’n dewis i astudio yng Nghymru yn gymwys am grant ffi dysgu (nad sy’n ad-daladwy) i fyny at £1,940 (lefel 2009/10) yn ddibynnol ar y sefydliad maent yn mynychu.

Mae’r penawdau ystadegol hyn yn cyflwyno gwybodaeth rheoli ddiweddaraf y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar y nifer o fyfyrwyr sy’n cymryd benthyciadau a grantiau ar gyfer ffioedd dysgu.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn y flwyddyn academaidd 2009/10 hyd at nawr, mae 57,360 cais ar gyfer cymorth myfyrwyr wedi eu derbyn yng Nghymru.
  • Derbyniwyd 45,450 cais ar gyfer benthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu; dyfarnwyd 37,190 o grantiau ffioedd dysgu.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 1514
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

11 Chwefror 2010