Skip to content

Myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch, 2008/09

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru gyda Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yng Nghymru a myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac wedi’u cofrestru gyda SAU yn y DU yn y flwyddyn academaidd 2008/09 ar 10 Chwefror 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 26 Chwefror 2009. Mae’r bwletin yn seiliedig ar ystadegau a gynhyrchir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ac yn dilyn yr ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan HESA ar 14 Ionawr 2010.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Roedd 126,475 o fyfyrwyr addysg uwch wedi'u cofrestru gyda SAU yng Nghymru, 1 y cant yn uwch na 2007/08. Roedd 36 y cant yn fyfyrwyr rhan-amser.
  • Roedd 102,395 o fyfyrwyr addysg uwch sy’n hanu o Gymru wedi'u cofrestru gyda SAU yn y DU, 1 y cant yn uwch na 2007/08. Roedd 43 y cant yn fyfyrwyr rhan-amser.
  • Enillwyd 34,645 o gymwysterau addysg uwch yn SAU yng Nghymru.
  • Enillwyd 25,575 o gymwysterau addysg uwch gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn SAU yn y DU.
  • Ers 2001/02 mae cyfran y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru ac sy'n astudio yng Nghymru wedi cynyddu o 62 y cant i 68 y cant (66 y cant yn 2007/08). Yn yr un modd, mae cyfran y myfyrwyr sy'n hanu o'r DU mewn SAU yng Nghymru sydd o Gymru wedi cynyddu o 55 y cant i 59 y cant (57 y cant yn 2007/08).

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5043
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)