Skip to content

Dangosyddion Perfformiad Addysg Uwch, 2008/09

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar Ddangosyddion Perfformiad Addysg Uwch, a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), ar 16 Ebrill 2010.

Yn seiliedig ar gyhoeddiad HESA, mae’r Bwletin Ystadegol hwn yn cynnwys data ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru ar lefel genedlaethol hyd at flwyddyn academaidd 2008/09. Mae’r bwletin yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 9 Mehefin 2009.

Bwriedir i'r dangosyddion perfformiad ddarparu gwybodaeth ddibynadwy am natur a pherfformiad y sector addysg uwch (AU) yn y DU a set gyson o fesuriadau o’r perfformiad hwn.  Mae'r dangosyddion perfformiad yn ymwneud yn bennaf ag ehangu cyfranogiad, nifer y myfyrwyr sy'n rhoi'r gorau i'w cyrsiau a chanlyniadau. Mae'r dangosyddion yn gysylltiedig â sefydliadau addysg uwch yng ngwledydd unigol y DU.

Dyma’r prif ganlyniadau o’r dangosyddion perfformiad ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yng Nghymru:

  • Roedd canran y myfyrwyr ifanc, llawn-amser sy'n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf ac sy'n mynd i AU o ysgolion neu golegau gwladol yn 2008/09 yn 93.2 y cant (88.5 y cant ar gyfer SAU y DU).
  • Deuai 32.5 y cant o ddechreuwyr ifanc, llawn-amser sy'n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel (Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol - Dosbarthiadau 4-7) yn 2008/09. Y ffigur cyfatebol ar gyfer y DU oedd 32.3 y cant.
  • Yn 2008/09, deuai 10.2 y cant (10.1 y cant yn y DU) o ddechreuwyr ifanc, llawn-amser sy'n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf a 12 y cant (11.6 y cant yn y DU) o ddechreuwyr aeddfed, llawn-amser sy'n astudio ar gyfer eu gradd gyntaf o “gymunedau â chanran isel yn cymryd rhan mewn AU” – y  gyfradd uchaf yn y DU ar gyfer dechreuwyr aeddfed.
  • Roedd canran y dechreuwyr a oedd yn astudio ar gyfer eu gradd gyntaf (2007/08) a roddodd y gorau i'w cyrsiau yn dilyn eu blwyddyn gyntaf (h.y. gadael neu beidio â pharhau) yn 7.4 y cant ymysg dechreuwyr ifanc llawn-amser ac 14.9 y cant ymysg dechreuwyr aeddfed llawn-amser. Roedd y ddau ffigur yn uwch na'r ffigurau cyfatebol ar gyfer y DU.

Gwybodaeth bellach

Gweler y cyhoeddiad a oedd yn sail i'r Bwletin hwn, a hefyd data ar gyfer pob SAU, yn gwefan gwefan Ddangosyddion Perfformiad Addysg Uwch: Swyddfa'r Wasg

Mae'r Bwletin yn cynnwys cymariaethau â gwledydd unigol yn y DU.  Hefyd, gellir gweld y wybodaeth hon ar gwefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5043
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ebrill 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')