Skip to content

Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Cymunedol, 2008/09 a 2009/10 (ffigurau cynnar)

Dolenni perthnasol

Mae’r ystadegau ar gyrchfannau disgyblion o ysgolion yn cynnwys data ar gyfer Cymru
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2008/09 a ffigurau cynnar ar gyfer 2009/10 (Rhagfyr), a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 22 Ebrill 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod Awst 2008 i Orffennaf 2009 a ffigurau cynnar ar gyfer Rhagfyr 2009.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ffigurau dros dro a gyhoeddwyd ar 25 Tachwedd 2009.

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn crynhoi data terfynol ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) neu ysgolion, ond gan gynnwys Sefydliadau Addysg Bellach (SAB), darparwyr eraill Dysgu Seiliedig ar Waith a darpariaeth Dysgu Cymunedol a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Roedd yna 251,575 o ddysgwyr mewn SAB, Dysgu Cymunedol neu ddarparwyr Dysgu seiliedig ar Waith yn ystod 2008/09; gostyngiad o 4.4 y cant o'i gymharu â 2007/08.
  • Bu cynnydd o 1.4 y cant yn niferoedd y dysgwyr llawn-amser mewn SAB ond bu gostyngiad o 9.6 y cant yn y niferoedd rhan-amser mewn SAB. Gwelwyd gostyngiad o 1.5 y cant yng nghyfanswm niferoedd dysgu cymunedol awdurdodau lleol a gostyngiad o 1.7 y cant yng nghyfanswm niferoedd dysgu seiliedig ar waith am y flwyddyn gyfan (neu 4.9 y cant ar ddiwedd Gorffennaf).
  • O'r gweithgareddau dysgu â lefelau cymhwyster hysbys, bu gostyngiad yn y gyfran ar lefel 1 o 33 y cant yn 2006/07 i 30 y cant yn 2008/09, tra bu cynnydd yn y gyfran ar lefel 3 o 18 y cant i 20 y cant dros y ddwy flynedd.
  • Mae’r Ffigurau Cynnar ar nifer y rhaglenni dysgu yn yr wythnos sy’n cynnwys 1 Rhagfyr 2009 hefyd yn dangos cynnydd yn y niferoedd llawn-amser a gostyngiad yn y niferoedd rhan-amser o’u cymharu â Rhagfyr 2008, ond arhosodd y nifer o raglenni dysgu seiliedig ar waith yn gymharol sefydlog.

Mae tablau ychwanegol sy'n cynnwys mwy o fanylion na thablau'r datganiad hwn ar gael ar wefan StatsWales.

Cyswllt

Ffôn: 029 2092 6041
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')