Skip to content

Ceisiadau am Gyllid Myfyrwyr, Benthyciadau Ffioedd Dysgu a Grantiau Ffioedd Dysgu a Ddyfarnwyd yng Nghymru - Diweddariad ar Ddiwedd Mis Mai 2010

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar geisiadau cyllid myfyrwyr, benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd dysgu a ddyfarnwyd, a gynhyrchir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC), ar 10 Mehefin 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar geisiadau cyllid myfyrwyr, benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd dysgu a ddyfarnwyd yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mai 2010. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 13 Mai 2010.

Yn 2006/07 cyflwynwyd benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu.  Golyga hyn y gellir gohirio taliad ffi dysgu hyd nes bod myfyrwyr wedi gadael addysg uwch ac yn ennill dros £15,000. Roedd myfyrwyr system newydd sy’n hanu o Gymru neu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru (h.y. y rhai a gychwynnodd o dan y trefniadau cymorth newydd a gyflwynwyd ym mis Medi 2006) yn gymwys am ffioedd dysgu o £1,200. Roedd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac yn astudio yn Lloegr yn gymwys am ffioedd dysgu amrywiol o hyd at £3,000. Yn 2007/08 cyflwynwyd ffioedd dysgu amrywiol (hyd at £3,290 yn 2010/11) yng Nghymru sy’n effeithio ar yr holl fyfyrwyr a gychwynnodd eu cyrsiau o 2006/07 ymlaen. Bydd myfyrwyr system newydd cyn-2010/11(1) sy’n hanu o Gymru ac yn astudio yng Nghymru yn gymwys am grant ffi dysgu (nad sy’n ad-daladwy) i fyny at £1,980 (lefel 2010/11) yn ddibynnol ar y sefydliad maent yn mynychu.

Mae’r ystadegau hyn yn cyflwyno gwybodaeth rheoli ddiweddaraf y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar y nifer o fyfyrwyr sy’n cymryd benthyciadau a grantiau ar gyfer ffioedd dysgu.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn y flwyddyn academaidd 2010/11 hyd at nawr, mae 26,250 cais ar gyfer cymorth myfyrwyr wedi eu derbyn yng Nghymru.
  • Derbyniwyd 22,310 cais ar gyfer benthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu; dyfarnwyd 10,570 o grantiau ffioedd dysgu.

(1) Myfyrwyr sy'n parhau ac a gychwynnodd ar gwrs addysg uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2010.

Gwybodaeth bellach

Wefan StatsWales

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')