Skip to content

Cyfranogiad Pobl Ifanc Mewn Addysg a’r Farchnad Lafur, 2008 a 2009 (dros dro)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar gyfranogiad pobl ifanc (16 i 24 oed) mewn addysg a’r farchnad lafur, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 28 Gorffennaf 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar lefelau cyfranogiad yn cynnwys data newydd diwedd blwyddyn 2008 a 2009. Amcangyfrifon dros dro yw data 2009 sydd wedi eu cyflwyno’n arbrofol  eleni er mwyn darparu darlun mwy amserol o gyfranogiad (yn  flaenorol mae data wedi ei gyhoeddi 19 mis ar ôl y cyfnod cyfeirio). Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 30 Gorffennaf 2009.

O gymharu â 2007, gwelwyd cynnydd yn y gyfran o bobl rhwng 16 a 18 oed mewn addysg neu hyfforddiant, gostyngiad yn y gyfran mewn cyflogaeth, ac arhosodd y gyfran o bobl rhwng 16 a 18 oed heb fod mewn addysg neu hyfforddiant nac mewn gwaith (NEET) ar 12 y cant. Roedd y gyfran o bobl rhwng 19 a 24 oed mewn addysg neu hyfforddiant yn debyg i’r gyfran yn 2007 ond bu gostyngiad yn y gyfran mewn cyflogaeth yn 2008 ac eto yn 2009. Roedd y gyfran heb fod mewn addysg neu hyfforddiant nac mewn cyflogaeth (NEET) yn 2008 yn debyg i 2007 ond bu cynnydd yn 2009.

Ar gyfer pobl rhwng 16 a 18 oed:

  • Roedd 79 y cant mewn addysg neu hyfforddiant yn 2009 (76 y cant yn 2008, 74 y cant yn 2007);
  • Roedd 33 y cant mewn gwaith llawn-amser neu ran-amser yn 2009 (40 y cant yn 2008, 44 y cant yn 2007);
  • Roedd 12 y cant heb fod mewn addysg neu hyfforddiant nac mewn gwaith yn 2009 (12 y cant yn  2008 a 2007).

Ar gyfer pobl rhwng 19 a 24 oed:

  • Roedd 38 y cant mewn addysg neu hyfforddiant yn 2009 (36 y cant yn 2008, 37 y cant yn 2007);
  • Roedd 61 y cant mewn gwaith llawn-amser neu ran-amser yn 2009 (65 y cant yn 2008, 66 y cant yn 2007); ac
  • Roedd 22 y cant heb fod mewn addysg neu hyfforddiant nac mewn gwaith (18 y cant yn 2008 a 2007).

Daw'r wybodaeth o nifer o ffynonellau. Mae tablau data ar gyfranogiad mewn addysg rhwng 1996 a 2009 ar gael, yn ôl oedran unigol hyd at 30 oed, trwy wasanaeth rhyngweithiol y Cynulliad, StatsWales.

Nodyn diwygio

Mae nifer o ddiwygiadau wedi eu gwneud i'r cyfansymiau a welir yn y pwyntiau ar gyfer y rheini sydd rhwng 19 a 24 mlwydd oed (tudalennau 2 a 3), nid ydynt yn effeithio'r cyfraddau cyfranogiad. Mae yna hefyd ddiwygiadau i un ffigwr yn nhabl 1a a dau ffigwr yn nhabl 2, newidiadau o tua 0.1 pwynt canran. Diwygiwyd y data ar 20 Ebrill 2011.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)