Skip to content

Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a Ddyfarnwyd yng Nghymru – Diweddariad ar ddiwedd mis Gorffennaf 2010

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA), a gynhyrchir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC), ar 11 Awst 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar LCA yn cynnwys data ar gyfer Cymru at gyfer y cyfnod hyd at 31 Gorffennaf 2010. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 14 Gorffennaf 2010.

Cyflwynwyd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr 16 oed am y tro cyntaf yn 2004/05. Yn 2005/06 ehangwyd y cynllun i gynnwys myfyrwyr 16 ac 17 oed ac yna, yn 2006/07, i fyfyrwyr 18 oed. Bwriad y cynllun yw bod yn gymhelliad i fyfyrwyr o deuluoedd ar incwm is barhau â'u haddysg amser llawn. Y brif elfen sy'n rhan o'r LCA yw'r lwfans wythnosol, sy'n gysylltiedig â lefelau boddhaol o bresenoldeb, ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys ac sy'n mynychu canolfannau dysgu yng Nghymru. Gall y myfyrwyr fod yn gymwys am ddyfarniadau o £10, £20 neu £30 yn dibynnu ar incwm y teulu. Gallant hefyd fod yn gymwys am fonws ychwanegol o £100 o dro i dro os byddant wedi cyflawni eu hamcanion dysgu.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Ar 31 Gorffennaf 2010, roedd 38,490 cais ar gyfer LCA wedi eu derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10.
  • Bu 36,160 cais (94 y cant) yn llwyddiannus; cafodd 940 (2 y cant) eu gwrthod; roedd 880 cais (2 y cant) yn anghyflawn(1).

Mae ffigurau StatsWales y flwyddyn academaidd bresennol yn cael eu diweddaru’n fisol ac yn gywir ar adeg eu cyhoeddi. Mae’n bosibl y bydd y ffigurau’n cael eu diwygio yn dilyn prosesu pellach gan yr SLC, megis ceisiadau’n cael eu hailddosbarthu o LCA i “Llwybrau at Brentisiaethau” neu i’r gwrthwyneb.

(1) Gall y rhain gynnwys ceisiadau gyda “gwybodaeth ar goll” (e.e. heb gynnwys dyddiad geni) neu geisiadau gyda “thystiolaeth ar goll” (e.e. heb dystysgrif geni).

Gwybodaeth bellach

Wefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2010 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')