Skip to content

Cyrchfannau Myfyrwyr sy’n Ennill Cymwysterau mewn Sefydliadau Addysg Uwch, 2008/09

Dolenni perthnasol

Data ar fyfyrwyr cymwysedig mewn cyflogaeth a'r rheini sy'n chwilio am swyddi addysgu.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar gyrchfannau myfyrwyr sy’n ennill cymwysterau addysg uwch (AU) o Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yn y Ddeyrnas Unedig yn y flwyddyn academaidd 2008/09, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 23 Medi 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r bwletin yn cynnwys data ar gymwysyddion sy’n hanu o Gymru a myfyrwyr a astudiodd mewn SAU yng Nghymru.  Mae’r data yn y bwletin yn deillio o gofnod yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) o Gyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) yn 2008/09.

Crynodeb 2008/09

  • Mae o gwmpas thri chwarter y myfyrwyr cymwysedig sy’n hanu o Gymru (76 y cant) a myfyrwyr cymwysedig o sefydliadau yng Nghymru (74 y cant) wedi cael rhyw fath o waith.  Cymerwyd bod 6 y cant o myfyrwyr cymwysedig sy’n hanu o Gymru a 7 y cant o myfyrwyr cymwysedig o sefydliadau yng Nghymru yn ddiwaith, ac roedd mwyafrif o'r gweddill yn astudio'n unig.
  • Roedd myfyrwyr cymwysedig a astudiodd mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru neu a oedd yn hanu o Gymru yn llai tebygol o aros yng Nghymru i weithio o gymharu â gwledydd eraill y DU, ond yn debyg i rhai o ranbarthau Lloegr.
  • Dim ond newidiadau bychan gwelwyd yn y canran yn symud i bob math o weithgaredd dros y cyfnod 2004/05 i 2008/09.

Cyhoeddir data am Gyrchfannau Myfyrwyr a Gwblhaodd Gyrsiau HCA yng Nghymru 2008/09 mewn ystadegau pennawd ychwanegol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: he.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')