Skip to content

Ceisiadau am Gymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch, Diweddariad ar Ddiwedd mis Medi 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau misol diweddaraf ar geisiadau am gymorth i fyfyrwyr a Benthyciadau Ffioedd Dysgu, a Grantiau Ffioedd Dysgu a ddyfarnwyd, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 6 Hydref 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar geisiadau am gymorth i fyfyrwyr a Benthyciadau Ffioedd Dysgu, a Grantiau Ffioedd Dysgu a ddyfarnwyd, yn cynnwys data ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru (ble bynnag maent yn astudio) a myfyrwyr sy’n hanu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru, am y cyfnod hyd at 25 Medi 2011 (Dydd Sul olaf y mis). Mae’r datganiad misol diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 8 Medi 2011.

Yn 2006/07 cyflwynwyd benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu. Roedd myfyrwyr system newydd sy’n hanu o Gymru neu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru (h.y. y rhai a gychwynnodd o dan y trefniadau cymorth newydd a gyflwynwyd ym mis Medi 2006) yn gymwys am ffioedd dysgu o £1,200. Roedd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac yn astudio yn Lloegr yn gymwys am ffioedd dysgu amrywiol o hyd at £3,000. Yn 2007/08 cyflwynwyd ffioedd dysgu amrywiol (hyd at £3,375 yn 2011/12) yng Nghymru sy’n effeithio’r holl fyfyrwyr a gychwynnodd eu cyrsiau o 2006/07 ymlaen. Bydd myfyrwyr system newydd cyn-2010/11(1) sy’n hanu o Gymru neu’r UE ac yn astudio yng Nghymru yn gymwys am Grant Ffioedd Dysgu (nad sy’n ad-daladwy) i fyny at £2,030 (lefel 2011/12), yn ddibynnol ar y sefydliad maent yn mynychu.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn y flwyddyn academaidd 2011/12 hyd at nawr, mae cyfanswm o 52,960 o geisiadau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru wedi eu derbyn, i lawr un y cant o'i gymharu â 2010/11.
  • Derbyniwyd 46,730 cais ar gyfer Benthyciadau Ffioedd Dysgu, i fyny dau y cant o'i gymharu â 2010/11. Gall hyn fod oherwydd nad yw Grantiau Ffioedd Dysgu ar gael i fyfyrwyr newydd o 2010/11.
  • Dyfarnwyd 11,585 o Grantiau Ffioedd Dysgu.

(1) Myfyrwyr sy'n parhau ac a gychwynnodd ar gwrs Addysg Uwch ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2010.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk 

Diweddariad nesaf

10 Tachwedd 2011