Skip to content

Staff a Chyllid Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, 2010/11

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar staff a chyllid Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd 2010/11, ar 22 Mawrth 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 24 Mawrth 2011.

Mae’r datganiad hwn wedi’i seilio ar ystadegau a gynhyrchir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Staff Sefydliadau Addysg Uwch

  • Yn 2010/11 roedd yna 19,710 aelod o staff yn gweithio mewn SAUau yng Nghymru, 430 yn llai nag yn 2009/10.
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi'r nifer fwyaf o staff (5,830), mwy na dwbl yr ail fwyaf - Prifysgol Morgannwg (2,480). Nesaf oedd Prifysgol Abertawe (2,465), Prifysgol Aberystwyth (2,265) a Phrifysgol Bangor (1,970).
  • Cofnodwyd bod llai na hanner o'r holl staff – 8,650 – yn weithwyr academaidd proffesiynol.
  • Oedran cyfartalog staff academaidd llawn-amser oedd 44. Roedd 22 y cant ohonynt o dan 35 oed a 18 y cant ohonynt yn 55 oed neu drosodd.
  • Roedd SAUau yng Nghymru yn cyflogi 11,060 o staff nad ydynt yn staff academaidd, o’r rheini roedd 3,045 yn gynorthwywyr llyfrgell, yn glercod neu’n gynorthwywyr gweinyddol cyffredinol. Roedd 1,655 yn weithwyr proffesiynol nad ydynt yn weithwyr academaidd, a 1,405 pellach yn lanhawyr, cynorthwywyr arlwyo, swyddogion diogelwch, porthorion a gweithwyr cynnal a chadw.
  • Roedd 53 y cant o’r staff yn fenywod. Serch hynny, mewn swyddi academaidd dim ond 43 y cant oedd yn fenywod. Hefyd, roedd 67 y cant o’r holl weithwyr rhan-amser yn fenywod.
  • Roedd 32 y cant o’r staff academaidd a 33 y cant o’r staff nad ydynt yn staff academaidd yn gweithio rhan-amser.

Cyllid Sefydliadau Addysg Uwch

  • Cyfanswm incwm net y SAUau yng Nghymru oedd £1,243 miliwn, tua £8 miliwn yn fwy nag yn 2009/10.
  • Daeth 33 y cant o'r incwm oddi wrth “Grantiau'r corff cyllido” (£416m), 33 y cant o “Ffioedd dysgu a chontractau addysgu” (£410m), 13 y cant o “Grantiau a chontractau ymchwil” (£165m) ac roedd “Incwm Arall” (£246m) yn cyfrif am 20 y cant o’r incwm. Mae “Incwm Arall” yn cynnwys yr incwm nad oedd wedi ei gyfrif yn y categorïau eraill, er enghraifft incwm a ddaeth am wasanaethau a gynigiwyd i gyrff allanol. Roedd y gwahaniaethau rhwng categorïau incwm yn debyg i’r patrwm yn 2009/10.
  • Cyfanswm y gwariant gan SAUau yng Nghymru oedd £1,212 miliwn, tua £12 miliwn yn fwy nag yn 2009/10.
  • Gwariwyd 59 y cant o gyfanswm gwariant SAUau yng Nghymru ar gostau staff (£712m).

Gwybodaeth bellach

Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA): Ceir gwybodaeth ar gasgliad data ac ansawdd ar gyfer Casgliad Staff 2010/11

Gwefan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA): Ceir gwybodaeth ar gasgliad data ac ansawdd ar gyfer Casgliad Cyllid 2010/11

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')