Skip to content

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn, 2010/11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar Gronfeydd Ariannol wrth Gefn yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Mawrth 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno gwybodaeth ar y nifer o ddyfarniadau o Gronfeydd Ariannol wrth Gefn i fyfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd 2010/11. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 28 Ebrill 2011.

Canlyniadau allweddol ar gyfer 2010/11:

Yn 2010/11, cafodd cyfanswm y gyllideb Cronfeydd Ariannol wrth Gefn a ddyrannwyd i sefydliadau addysg uwch ei leihau i £2.1m o ganlyniad i welliannau i’r pecyn o gymorth arall sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi bod o gwmpas £5m yn eithaf cyson. Felly dylid cymryd gofal wrth gymharu’n uniongyrchol rhwng ffigurau 2010/11 a blynyddoedd cynharach o ran cyfanswm gwariant. Bu cynnydd yng ngheisiadau i sefydliadau addysg bellach o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, er bu lleihad o 7 y cant yn nifer y dyfarniadau unigol.

Addysg Uwch:

  • Bu lleihad o 28 y cant yn nifer y ceisiadau am gymorth ariannol o Gronfeydd Ariannol wrth Gefn i 7,260 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Bu lleihad yn nifer o geisiadau llwyddiannus i 5,730 (lleihad o 31 y cant) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Cyllidwyd 6,055 o ddyfarniadau unigol yn 2010/11, o’i gymharu â 9,000 yn y flwyddyn flaenorol (lleihad o 33 y cant).
  • Y cyfanswm a ddyrannwyd i sefydliadau oedd £2.1m.

Addysg Bellach:

  • Bu cynnydd o 1 y cant yn nifer y ceisiadau am gymorth ariannol o Gronfeydd Ariannol wrth Gefn i 21,115 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Bu lleihad yn y nifer o geisiadau llwyddiannus i 18,815 (lleihad o 3 y cant) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Cyllidwyd 23,580 o ddyfarniadau unigol yn 2010/11, o’i gymharu â 25,405 yn y flwyddyn flaenorol (lleihad o 7 y cant).
  • Y cyfanswm a ddyrannwyd i sefydliadau oedd £7.0m.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')