Skip to content

Hynt Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru, 2011

Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar gyrchfannau disgyblion o ysgolion yng Nghymru, a gynhyrchir gan Gyrfa Cymru, ar 25 Ebrill 2012.

Mae’r ystadegau ar gyrchfannau disgyblion o ysgolion yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at 31 Hydref 2011. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ym mis Ebrill 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

Carfan blwyddyn 11

  • Ar y cyfan, parhaodd 85 y cant o garfan blwyddyn 11 ag addysg lawn-amser (83 y cant yn 2010), sy’n parhau â’r cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diweddar.
  • Fe aeth 91 y cant i mewn i ryw fath o ddysgu parhaol llawn-amser, unai drwy addysg lawn-amser neu hyfforddiant seiliedig ar waith a gefnogir gan y Llywodraeth (90 y cant yn 2010).
  • Aeth 2 y cant pellach i mewn i waith heb hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth (tebyg i 2010).
  • Nid oedd 4 y cant o'r garfan mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (5 y cant yn 2010).

Carfan blwyddyn 13 (myfyrwyr ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgol yn unig)

Ar y cyfan, fe aeth 55 y cant o garfan blwyddyn 13 i sefydliad addysg uwch, gan eithrio’r rheini sydd yn cymryd blwyddyn allan, o’i gymharu â 56 y cant yn 2010.

  • Fe aeth 81 y cant i mewn i ryw fath o ddysgu parhaol llawn-amser, unai drwy addysg lawn-amser neu hyfforddiant seiliedig ar waith a gefnogir gan y Llywodraeth (80 y cant yn 2010).
  • Fe aeth 9 y cant pellach i mewn i waith heb hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth (fel yn 2010).
  • Nid oedd 7 y cant o'r garfan mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (tebyg i 2010).
  • O’r rheini a oedd yn parhau mewn addysg lawn-amser yn 2010, fe aeth 69 y cant i sefydliad addysg uwch, roedd 2 y cant wedi gohirio eu mynediad i addysg uwch, parhaodd 15 y cant â'u haddysg mewn chweched dosbarth mewn ysgol, ac fe aeth 14 y cant i sefydliad addysg bellach.

Ni ddosbarthir canlyniadau'r arolwg hwn fel Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Gyrfa Cymru: Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru, 2011 

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ebrill 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')