Skip to content

Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a Ddyfarnwyd yng Nghymru - Diweddariad ar ddiwedd mis Ebrill 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Lwfansau Cynhaliaeth Addysg, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 9 Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau misol hyn yn cyflwyno gwybodaeth ar y nifer o geisiadau ar gyfer Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) gan fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2012. Cyflwynwyd yr LCA yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr 16 oed am y tro cyntaf yn 2004/05. Yn 2005/06 ehangwyd y cynllun i gynnwys myfyrwyr 16 ac 17 oed ac yna, yn 2006/07, i fyfyrwyr 18 oed. Bwriad y cynllun yw bod yn gymhelliad i fyfyrwyr o deuluoedd ar incwm is barhau â'u haddysg amser llawn. Lwfans wythnosol, sy'n gysylltiedig â lefelau boddhaol o bresenoldeb, ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys ac sy'n mynychu canolfannau dysgu yng Nghymru ydi’r LCA.

O flwyddyn academaidd 2011/12, mae’r meini prawf ar gyfer myfyrwyr newydd i’r LCA sy’n derbyn y wobr £30 wedi newid, ac nid yw’r gwobrwyau £10 a £20 ar gael bellach. Gall myfyrwyr newydd i’r LCA fod yn gymwys am ddyfarniad o £30 yr wythnos, yn dibynnu ar incwm ac amgylchiadau’r teulu. Bydd y myfyrwyr a dderbyniwyd LCA yn 2010/11 sydd yn dychwelyd i addysg ac yn ateb yr un meini prawf cymhwyster ag ar gyfer 2010/11 yn parhau i dderbyn eu LCA, pa un ai ar gyfer £10, £20 neu £30 yr wythnos. Ni fydd unrhyw daliadau bonws (a oedd yn cael eu talu ym mis Medi, mis Ionawr a mis Gorffennaf yn flaenorol) yn cael eu gwneud i unrhyw fyfyrwyr.

Mae’r data, sy’n seiliedig ar geisiadau a dderbyniwyd hyd at 30 Ebrill 2012, yn gywir ar 3 Mai 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Ar 30 Ebrill 2012, roedd nifer y ceisiadau llwyddiannus 9 y cant yn is o’i gymharu â llynedd, tra roedd cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd 11 y cant yn is.
  • Mae 34,125 cais ar gyfer LCA yng Nghymru wedi eu derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2011/12.
  • Mae 32,675 (96 y cant) o geisiadau wedi bod yn llwyddiannus, 905 (3 y cant) wedi eu gwrthod a 535 cais (2 y cant) yn anghyflawn(1).

(1) Mae’r rhain yn geisiadau â “gwybodaeth ar goll” (e.e. heb gynnwys dyddiad geni) neu â “thystiolaeth ar goll” (e.e. tystysgrif geni).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

13 Mehefin 2012