Skip to content

Ceisiadau am Gymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch - Diweddariad ar ddiwedd mis Ebrill 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau misol diweddaraf ar geisiadau am gymorth i fyfyrwyr a Benthyciadau Ffioedd Dysgu, a Grantiau Ffioedd Dysgu a ddyfarnwyd, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 10 Mai 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar geisiadau am gymorth i fyfyrwyr a Benthyciadau Ffioedd Dysgu, a Grantiau Ffioedd Dysgu a ddyfarnwyd, yn cynnwys data ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru (ble bynnag maent yn astudio) a myfyrwyr sy’n hanu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru, am y cyfnod hyd at 29 Ebrill 2012 (Dydd Sul olaf y mis). Mae’r datganiad misol diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 19 Ebrill 2012.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn y flwyddyn academaidd 2012/13 hyd at nawr, mae cyfanswm o 16,400 o geisiadau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru wedi eu derbyn, i lawr 12 y cant o'i gymharu â 2011/12. Fodd bynnag, dyma’r data misol cyntaf ar gyfer ceisiadau am 2012/13, ac mae’n rhy gynnar i ragweld a fydd y gostyngiad canrannol a welwyd y mis hwn yn parhau tan y data terfynol. Gall newidiadau yn amseriad y broses ymgeisio, ac ymdrechion i annog ymgeisio cynharach effeithio’r newidiadau canrannol mor gynnar â hyn yn y broses.
  • Derbyniwyd 14,695 cais ar gyfer Benthyciadau Ffioedd Dysgu, i lawr 12 y cant o'i gymharu â 2011/12.
  • Dyfarnwyd 6,930 o Grantiau Ffioedd Dysgu.

Ers 2006/07, mae myfyrwyr wedi gallu ceisio am fenthyciadau heb brawf modd ar gyfer ffioedd dysgu. O 1 Medi 2012, bydd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ac yn ymrwymo a Sefydliad Addysg Uwch (SAU)  neu goleg o’r DU sy’n codi tâl amrywiol am ffioedd dysgu (hyd at uchafswm o £9,000) yn gymwys i dderbyn Grant Ffioedd Dysgu o hyd at £5,535. Bydd myfyrwyr o’r UE yn gymwys i dderbyn y grant hwn os ydynt yn astudio yng Nghymru. Mae myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a myfyrwyr sy’n hanu o’r UE ac yn astudio yng Nghymru a gychwynnodd eu cyrsiau rhwng Medi 2006 ac Awst 2010, yn gymwys i dderbyn Grant Ffioedd Dysgu heb brawf modd o hyd at £2,085 (lefel 2012/13). Mae’r grantiau yn rhai heb brawf modd ac nid ydynt yn ad-daladwy. Nid yw myfyrwyr sy’n hanu o Gymru na myfyrwyr o’r UE a gychwynnodd eu cyrsiau rhwng 1 Medi 2010 a 31 Awst 2012 yn gymwys i dderbyn Grant Ffioedd Dysgu (ac eithrio’r rhai a ohiriodd fynediad i addysg uwch).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

14 Mehefin 2012