Skip to content

Dadansoddiad o'r Rhwydwaith Dysgu, 2010/11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar addysg a hyfforddiant ôl-16 ar gyfer y cyfnod rhwng Awst 2010 a Gorffennaf 2011 gan Lywodraeth Cymru ar 17 Mai 2012, yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r bwletin ar Ddadansoddi'r Rhwydwaith Dysgu yn darparu data ar ddysgwyr ôl-16 (ac eithrio dysgwyr mewn sefydliadau addysg uwch) yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Ei fwriad yw bod yn ffynhonnell wybodaeth sy'n sail i gynllunio strategol cenedlaethol a lleol a phrosesau llunio polisïau o fewn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16.

Mae'r wybodaeth o fewn y bwletin hwn yn ymwneud â dysgwyr sy'n hanu o Gymru ac sydd, yn ystod blwyddyn academaidd 2010/11, wedi’u cofrestru gyda sefydliadau addysg bellach (AB), darparwyr hyfforddiant eraill, darparwyr dysgu cymunedol yr awdurdodau lleol neu chweched dosbarth ysgolion yng Nghymru. Mae'r dadansoddi hefyd yn cynnwys dysgwyr sy'n hanu o Gymru ac sydd wedi'u cofrestru gyda sefydliadau addysg bellach, darparwyr hyfforddiant eraill, neu chweched dosbarth ysgolion yn Lloegr.

Daeth y data hwn o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ôl-16, a'r Cofnod Dysgwr Unigol (CDU).

Dyma'r pwyntiau allweddol o'r bwletin:

  • Roedd cyfanswm nifer y dysgwyr sy'n hanu o Gymru 1.1 y cant yn is yn 2010/11 nag yn 2009/10 ar sail carfan gymaradwy.
  • Yn 2010/11, roedd 295,900 o ddysgwyr yn hanu o Gymru ac yn dilyn cyrsiau mewn sefydliad addysg bellach (AB), gyda darparwr hyfforddiant arall, darparwr dysgu cymunedol yr awdurdodau lleol, chweched dosbarth ysgolion neu ddarparwr yn Lloegr.
  • Roedd 64 y cant o'r dysgwyr wedi’u cofrestru gyda sefydliadau AB (gan gynnwys eu his-gyrff hyfforddi) yng Nghymru, 14.5 y cant wedi’u cofrestru â darparwyr hyfforddiant eraill, 7.5 y cant wedi cofrestru â darparwyr dysgu cymunedol awdurdodau lleol, 10 y cant wedi’u cofrestru â chweched dosbarth ysgolion a 4 y cant wedi’u cofrestru â darparwyr yn Lloegr.
  • Er gwaethaf y gostyngiad yn y nifer o ddysgwyr gyffredinol, gwelwyd tueddiadau gwahanol gan awdurdod lleol unigol Parhaodd Merthyr Tudful i ddangos cynnydd mewn dysgwyr  gyda chynnydd o 19 y cant dros gyfnod o ddwy flynedd. Er hynny, dangosodd y mwyafrif o awdurdodau lleol leihad yn nifer y myfyrwyr preswyl, gyda Sir y Gar yn gweld gostyngiad o 10 y cant, yn gymharol i'w ffigurau yn 2009/10.
  • Mae tablau sy'n gysylltiedig â'r bwletin hwn ac yn cynnwys mwy o fanylion ar gael ar wefan StatsWales trwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)