Skip to content

Bobl Ifanc heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET), Y flwyddyn hyd at 30 Mehefin 2012

Dolenni perthnasol

Yn cynnwys data ar y nifer o bobl 16 i 18 mlwydd oed mewn addysg neu mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 10 Hydref 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at y flwyddyn sy’n diweddu 30 Mehefin 2012. Mae’r bwletin diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 25 Gorffennaf 2012.

Y ffynhonnell swyddogol ar gyfer yr amcangyfrifon o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru yw’r Datganiad Ystadegol Cyntaf blynyddol. Mae’r Bwletin hwn yn darparu ystadegau mwy amserol, ond llai cadarn yn ystadegol, i’r defnyddiwr.

Mae’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y bwletin hwn wedi eu cymryd o’r ffynonellau canlynol:

  • Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur’ gan ddefnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS);
  • Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ONS); ac
  • Yr arolwg Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru gan Gyrfa Cymru.

Y canlyniadau diweddaraf o’r ffynonellau hyn:

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf – Ar ddiwedd 2011 (dros dro), roedd 12.0 y cant o bobl ifanc rhwng 16-18 mlwydd oed yn NEET (13,600) o’i gymharu â 11.1 y cant (12,800) ar ddiwedd 2010;
  • Ar sail yr APS – Ar gyfer y flwyddyn sy’n diweddu Chwarter 2 2012, amcangyfrifwyd bod 12.9 y cant o bobl ifanc rhwng 16-18 mlwydd oed yn NEET, dim newid o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (sy’n diweddu Chwarter 2 2011);
  • Ar sail Cyrchfannau Disgyblion – Ym mis Hydref 2011, roedd 4.4 y cant o ymadawyr Blwyddyn 11 yn NEET, o’i gymharu â 5.4 y cant yn 2010.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')