Skip to content

Perfformiad mewn Asesiadau ac Arholiadau yng Nghymru: Cymhariaeth gyda Lloegr a’i ranbarthau, 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar ‘Perfformiad mewn Asesiadau ar Arholiadau yng Nghymru: Cymhariaeth gyda Lloegr a’i ranbarthau, 2008’, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 25 Mehefin 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar ‘Perfformiad mewn Asesiadau ac Arholiadau yng Nghymru: Cymhariaeth gyda Lloegr a’i Ranbarthau, 2008’ yn cynnwys data ar gyfer Cymru a Lloegr am y cyfnod blwyddyn academaidd 2007/08.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 26 Mehefin 2008.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cyfnod Allweddol 1: Roedd y gyfran o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig ychydig yn is yng Nghymru nag yn Lloegr ymhob pwnc ar wahân i Wyddoniaeth, gyda’r cyfartaledd yr un peth yng Nghymru a Lloegr.
  • Cyfnod Allweddol 2: Perfformiodd disgyblion yng Nghymru’n well na’u cyfoedion yn Lloegr yn Saesneg a Mathemateg, ond yr un peth ar gyfer Gwyddoniaeth.
  • Cyfnod Allweddol 3: Roedd y gyfran o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig yn is yng Nghymru nag yn Lloegr.
  • Cyfnod Allweddol 4: Roedd y gyfran o ddisgyblion 15 oed a gyrhaeddodd drothwy lefel 2 (cyfaint o gymwysterau Lefel 2 sy’n gyfystyr â’r cyfaint o 5 TGAU gradd A* i C) yn is yng Nghymru nag yn Lloegr.  Roedd mwy o ddisgyblion yng Nghymru nad oedd yn ennill unrhyw ganlyniad TGAU, cymhwyster lefel mynediad (ELQ) neu gyfystyr nag yn Lloegr.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5514
E-bost: school.stats@cymru.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2010 (dros dro - bydd yr union ddyddiad i’w weld ar y dudalen 'i'w cyhoeddi cyn hir')