Skip to content

Absenoldeb o Ysgolion Cynradd, 2008/09

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar absenoldeb o ysgolion cynradd yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 21 Ionawr 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae’r ystadegau ar absenoldeb o ysgolion cynradd yng Nghymru, 2008/09 yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y flwyddyn academaidd gyfan 2008/09, ac at ddiwedd tymor y gwanwyn, 2009, ar gyfer Lloegr.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 17 Chwefror 2009.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

Yn 2008/09,

  • methwyd 6.8 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb gydag awdurdod a heb awdurdod,  cynnydd o'r 6.7 y cant yn 2007/08.
  • methwyd 1.0 y cant o sesiynau (hanner diwrnod) drwy absenoldeb heb awdurdod, cynnydd o'r 0.9 y cant yn 2007/08.
  • Mae’r canran o sesiynau (hanner diwrnod) a fethwyd o ganlyniad i absenoldeb (gyda neu heb awdurdod) yn uwch yng Nghymru nac yn Lloegr, ond mae’r bwlch yn parhau i gulhau.
  • Mae’r gyfradd absenoldeb gyda neu heb awdurdod yr un faint ar gyfer bechgyn a merched.
  • Roedd ychydig dan 5,500 o ddisgyblion (2.8 y cant) heb absenoldeb o ysgolion yn 208/09.
  • Roedd ychydig dros i bumed o’r disgyblion yn gyfrifol am tua hanner cyfanswm y sesiynau o absenoldeb.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3599
E-bost: stats.healthinfo@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')