Skip to content

Ysgolion yng Nghymru: Perfformiad Mewn Arholiadau 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Perfformiad mewn arholiadau, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 25 May 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Ceir ynddo ddadansoddiad manwl o asesiadau'r Cyfnodau Allweddol a chanlyniadau TGAU a Safon Uwch y llynedd. Mae llawer o'r wybodaeth eisoes wedi'i chyhoeddi mewn cyfrolau ystadegol blaenorol.  Mae'r cyhoeddiad hwn yn dwyn ynghyd yr holl wybodaeth er mwyn llunio crynodeb cynhwysfawr o'r perfformiad mewn arholiadau yng Nghymru.

Eleni, nid oes copi caled o’r cyhoeddiad ar gael. Ond mae’r holl ddata dal ar gael  yn y taenlenni EXCEL, a dros yr had fe fyddwn yn ehangu’r ystod o ddata perfformiad ysgolion ar gael trwy ein gwasanaeth rhyngweithiol StatsWales.  Mae'r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cyflwyno detholiad o'r wybodaeth hon.

Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 7 Mai 2009.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yng Nghyfnod Allweddol 1 yn 2009, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn asesiadau athrawon yn uwch ym mhob pwnc o’i gymharu â 2008.
  • Yng Nghyfnod Allweddol 2 yn 2009, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn asesiadau athrawon yn uwch ym mhob pwnc o’i gymharu â 2008, ac o leiaf 10 pwynt canran yn uwch nag yn 1999.
  • Yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2009, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn asesiadau athrawon yn uwch ym mhob pwnc o’i gymharu â 2008.
  • Llwyddodd 61 y cant o ddisgyblion 15 oed i ennill y trothwy lefel 2 yn 2009, 3 pwynt canran yn uwch nag yn 2008.  Llwyddodd 66 y cant o ferched a 55 y cant o fechgyn i gyrraedd y lefel hon.
  • Ceisiodd 11,367 o ddisgyblion dwy ar bymtheg oed cymhwyster cyfwerth â dau bwnc Safon Uwch yn 2009, tua 420 yn fwy nag yn 2008.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: school.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mai 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')