Skip to content

Disgyblion sy'n Ymadael ag Addysg heb Gymhwyster, 2010/11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar ddisgyblion 15 oed sy’n ymadael ag addysg heb gymhwyster cydnabyddedig, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 1af o Ragfyr 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar ddisgyblion 15 oed sy’n ymadael ag addysg heb gymhwyster cydnabyddedig yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod 2004/05 i 2010/11. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 1 o Ragfyr 2010.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn 2010/11, fe ymadawodd 221 o ddisgyblion 15 oed addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig. Mae hyn yn is na’r cyfanswm o 392 yn 2009/10.
  • Wedi'i fynegi fel canran o'r garfan, ymadawodd 0.6 y cant o ddisgyblion 15 oed ag addysg llawn amser heb gymhwyster cydnabyddedig yn 2010/11, 0.2 canran llai nag yn 2009/10.
  • Gwelwyd canran uwch o fechgyn yn ymadael ag addysg llawn amser heb gymhwyster nag oedd o ferched: 0.7 y cant ac 0.5 y cant yn yr un drefn.
  • Fe adroddwyd y ganran isaf o bobl ifanc 15 oed sy'n gadael addysg amser llawn heb gymhwyster cydnabyddedig yng Ngheredigion gyda 0 y cant, yr uchaf yn Merthyr gyda 1.5 y cant.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: school.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')