Skip to content

Perfformiad mewn Asesiadau, Cymheriaeth gyda Lloegr a'i Ranbarthau, 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar ‘Perfformiad mewn Asesiadau yng Nghymru: Cymhariaeth gyda Lloegr a’i rhanbarthau, 2011’, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 26 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar ‘Perfformiad mewn Asesiadau yng Nghymru: Cymhariaeth gyda Lloegr a’i rhanbarthau, 2011’ yn cynnwys data ar gyfer Cymru a Lloegr am flwyddyn academaidd 2010/11. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 28 Mehefin 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Cyfnod Allweddol 1: Roedd y gyfran o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig ychydig yn is yng Nghymru nag yn Lloegr ym mhob pwnc ar wahân i Wyddoniaeth, ble roedd y cyfartaledd yng Nghymru ychydig yn uwch na Lloegr ar 90 y cant.
  • Cyfnod Allweddol 2: Perfformiodd disgyblion yng Nghymru’n well na’u cyfoedion yn Lloegr ym mhob pwnc.
  • Cyfnod Allweddol 3: Roedd y gyfran o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig yn is yng Nghymru nag yn Lloegr ym mhob pwnc.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: school.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mehefin 2013 (dros dro i'w gadarnhau ar y tudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')