Skip to content

Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Datblygiad Tlodi Plant yn seiliedig ar Dachwedd 2010

Dolenni perthnasol

Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am ddangosyddion Tlodi Plant, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 25 Tachwedd 2010, yn ôl y trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae'r ystadegau am ddangosyddion sy'n monitro cynnydd o ran y Strategaeth Tlodi Plant yn cynnwys data am Gymru ar gyfer y cyfnod hyd at Dachwedd 2010.

Mae adolygiad o'r dangosyddion a gynhwysir yn y datganiad hwn wedi digwydd yn yr hydref 2010.

Y pwyntiau allweddol o'r adolygiad a datganiad yw:

  • Mae pob blwyddyn sylfaenol wedi cael eu hail-osod i 2006;
  • Mae dau ddangosydd newydd yn cael eu cynnwys: plant sy'n byw mewn tlodi mewn gwaith a chyrhaeddiad addysgol yn oedolion ifanc. Mae’r dangosydd iechyd amgylchedd y plant wedi cael ei ddileu. Lle mae data addas ar gael, dylai statws cynnydd y dangosyddion gael eu pennu gan y mesur anghydraddoldeb (faint mae'r bwlch wedi newid rhwng y rhai sydd mewn tlodi a'r rhai nad ydynt mewn tlodi);
  • O'r 32 o ddangosyddion tlodi plant, mae 10 wedi dangos gwelliant amlwg, 12 wedi dangos newid ychydig neu dim newid, 3 wedi dangos dirywiad clir ac nid oes gan 7 ohonynt ddigon o ddata i’r statws cynnydd i'w gael ei ddyrannu.
  • Ni newidiodd 5 o'r dangosyddion eu llinell sylfaen nac eu diffiniad, felly gellir eu cymharu â'r cyhoeddiad diwethaf; does dim newid yn statws cynnydd y 5 dangosydd.

Bydd y data a'r nodiadau llawn ar bob dangosydd ar gael drwy ein gwefan StatsCymru. Gall y defnyddiwr drin a thrafod y rhain neu eu lawrlwytho.

Roedd ymgynghoriad cyhoeddus o Strategaeth Tlodi Plant newydd ar gyfer Cymru am gofnod o dri mis o 12 Mai 2010. Bydd Strategaeth Tlodi Plant diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau 2011. Bydd y dangosyddion a ddefnyddir i fesur y cerrig milltir a thargedau tlodi plant y Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2006, yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r Strategaeth newydd hon.

Diweddaru - 10 Rhagfyr 2012

Mae Rhaglen y Llywodraeth yn amlinellu yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud i wella bywydau pobl Cymru a sut byddwn yn mesur cynnydd, gan gynnwys y cynllun gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Bob blwyddyn, rydym yn adrodd ar set lawn o ddiweddariadau ar y cynnydd a wnaed ar yr ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen.

Ochr yn ochr ag adroddiadau blynyddol ar raglen y Llywodraeth, cyhoeddom gynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ym mis Mehefin 2012. Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru ac adfywio'r cynllun gweithredu bob blwyddyn i roi golwg manwl ar y camau rydym ni a phartneriaid wedi eu cymryd i drechu tlodi.

Er mwyn symleiddio prosesau adrodd, rydym wrthi'n adolygu 'Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Dangosyddion Tlodi plant' gyda'r bwriad o symud llawer o'r wybodaeth i mewn i'r adroddiadau blynyddol ar y cynllun trechu tlodi. Disgwylir y diweddariad nesaf erbyn Mehefin 2013.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')