Skip to content

Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy, 2008

Dolenni perthnasol

Mesur pryderon bob dydd, gan gynnwys iechyd, tai, swyddi, trosedd, addysg a'r amgylchedd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 21 Awst 2008 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Safon Ystadegau Gwladol Mae rhifyn cyntaf y llyfryn 'Yn Eich Poced' ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy i Gymru yn cyflwyno mesurau o bethau yr ymboenir amdanynt o ddydd i ddydd gan gynnwys iechyd, tai, swyddi, troseddu, addysg a'n hamgylchedd. Mae'r datganiad ystadegol yn rhoi cefndir i'r cyhoeddiad ac yn dangos tabl crynodol o'r llyfryn.

Mae'r llyfryn yn debyg i gyhoeddiad mis Gorffennaf 2008, Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy'r DU (dolen allanol). Mae'r llyfryn Cymraeg yn dangos cymhariaethau gyda dangosyddion y DU, lle mae'n bosib gwneud hynny.

Mae'r tabl crynodol o'r cyhoeddiad yn dangos bod:

  • 15 o'r 39 dangosydd yn dangos gwelliant amlwg;
  • 12 o'r 39 dangosydd yn dangos dim neu fawr ddim newid;
  • 6 o'r 39 dangosydd yn dangos dirywiad amlwg;
  • 6 o'r 39 dangosydd hefo data annigonol neu ddim data y gellir eu cymharu.

Mae cynlluniau yn awr i barhau i ddiweddaru'r llyfryn poced hwn bob blwyddyn a gobeithio y bydd y data ymhen amser yn gymorth i fonitro'r cynnydd tuag at ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Fel cydymaith i'r llyfryn hwn, bydd fersiwn ar-lein yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft dadansoddiad fesul Awdurdod Lleol, ar gael ar y rhyngrwyd Ystadegau yn gynnar yn yr hydref yn 2008.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 6399
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
Awst 2009 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')