Skip to content

Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy, 2011

Dolenni perthnasol

Mesur pryderon bob dydd, gan gynnwys iechyd, tai, swyddi, trosedd, addysg a'r amgylchedd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhyddhawyd yr Ystadegau Cenedlaethol diweddaraf ar Ddatblygu Cynaliadwy a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ar 30 Awst 20011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r llyfryn 'Yn Eich Poced' ar Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy Cymru 2011 yn mesur pryderon bob dydd, gan gynnwys iechyd, tai, swyddi, trosedd, addysg a'r amgylchedd. Mae'r llyfryn ystadegol yn cyflwyno cefndir y cyhoeddiad, a thabl cryno o'r llyfryn.

Mae'r llyfryn yn debyg i gyhoeddiad Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy y DU, mis Gorffennaf 2010. Mae'r llyfryn i Gymru yn cymharu'r dangosyddion â dangosyddion y DU, lle mae hynny’n bosibl.

Mae'r tabl cryno o'r cyhoeddiad yn dangos:

  • bod 19 o'r 44 dangosydd yn dangos gwelliant amlwg;
  • bod 18 o'r 44 dangosydd yn dangos ychydig neu ddim newid;
  • bod 4 o'r 44 dangosydd yn dangos dirywiad amlwg;
  • nad oes gan 3 o'r 44 dangosydd ddigon o ddata neu ddim data y gellir ei gymharu.

Bydd y llyfryn 'Yn Eich Poced' yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol i helpu i fonitro'r cynnydd a fydd yn cael ei wneud tuag at ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru.

I gyd-fynd â'r llyfryn, mae'r data ar gyfer pob dangosydd, gan gynnwys dadansoddiadau awdurdodau lleol lle yn berthnasol, ar gael drwy wefan StatsWales.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Awst 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)